Page Cover

academi

Mae Academi Jukebox yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr ddatblygu’n artistig a chyflawni eu potensial er mwyn llunio dyfodol cadarnhaol, creadigol. Mae’r rhaglen ddatblygu artistig sy’n dair blynedd o hyd yn arfogi myfyrwyr â’r sgiliau creadigol, y wybodaeth a’r hyder i ffynnu.
Content Box

Rydym yn darparu gofod lle mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn eu dysgu personol; rydym yn cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel mewn dawnsio stryd ochr yn ochr â rhaglen sgiliau creadigol; rydym yn cefnogi ac yn meithrin creadigrwydd; yn paratoi’r unigolion hyn ar gyfer gyrfa broffesiynol yn y celfyddydau, ac yn creu llwybrau i’r yrfa honno.

sesiynau

Drwy gwmpasu amrywiaeth o ffurfiau celfyddyd perfformio, rydym bob blwyddyn yn dylunio rhaglen gyffrous er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn ymgysylltu a bod ein dosbarthiadau’n adlewyrchu diddordebau ein myfyrwyr. Mae ein modiwlau dawns yn cynnwys ‘Popping’, ‘Locking’, ‘Breakin’’, ‘Hip Hop’ a dawns Gyfoes. Rydym yn canolbwyntio ar annog unigolrwydd ac arloesedd ym mhob arddull gan aros yn driw i’r diwylliant a’r tarddiadau ar yr un pryd.

Mae ein modiwlau eraill yn cynnwys drama, cerddoriaeth ac amlgyfrwng, o greu ffilmiau i ffotograffiaeth. Trwy ein dosbarthiadau amlddisgyblaethol, mentora a sesiynau mewnwelediad i’r diwydiant rydym yn annog cydweithredu, chwilfrydedd, rhyddid artistig a meddwl gwreiddiol.

Youtube Video
Content Box

cyfleoedd

Caiff aelodau’r Academi eu hystyried yn aml ar gyfer gwaith proffesiynol. Mae myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr wedi cymryd rhan mewn hysbysebion teledu, ffilmiau byr a chynyrchiadau theatr. Mae cyn-fyfyrwyr o’r Academi wedi mynd ymlaen i ffynnu yn y diwydiannau creadigol, gan feithrin hyder er mwyn cyflawni eu nodau personol a’u nodau artistig.

Mae’r myfyrwyr hefyd yn gweithio tuag at sioe ddiwedd blwyddyn, gan roi cyfle iddynt greu eu darnau unigol eu hunain yn ogystal â pherfformio fel grŵp.

tiwtoriaid

Mae ein tiwtoriaid hyfforddedig a phroffesiynol yn cyfuno eu harddull a’u profiad unigol â’n dull addysgu unigryw. Ochr yn ochr â’n tîm craidd, rydym yn gwahodd athrawon gwadd lleol a rhyngwladol ac yn eu plith unigolion fel Shawn Aimey, Bboy Spin, Brooke Milliner, Tristan Fynn-Aiduenu a Kaner Flex.

Content Box

sut i ymuno

Os hoffech i’ch enw gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio ar gyfer dyddiadau clyweliad yn y dyfodol, yna gallwch chi neu riant/gwarcheidwad fynegi diddordeb trwy e-bostio:

academy@jukeboxcollective.com

ysgoloriaethau

Rydym yn cynnig ysgoloriaethau i lawer o’n myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn yr Academi.

Os gwelwch yn dda, cysylltwch â ni er mwyn derbyn ein pecyn gwybodaeth am ysgoloriaeth a gwirio a ydych chi/eich plentyn yn gymwys.

Gallwch hefyd noddi myfyriwr trwy gyfrannu yma

rhoi

Content Box
Llwytho