Page Cover

dosbarthiadau

Meithrin creadigrwydd mewn cymunedau amrywiol trwy ein rhaglen gelfyddydau amlddisgyblaethol. Rydym yn cyflwyno dosbarthiadau dawns agored, blaengar bob wythnos yn rheolaidd yn ein canolfan yng Nghaerdydd, prosiectau allgymorth cymunedol, cyfleoedd hyfforddi a gweithdai arbenigol ar draws Cymru a thu hwnt.
Page Menu
Content Box

dosbarthiadau cymunedol

Mae’n hawdd ymuno â dosbarth cymunedol; edrychwch trwy ein dosbarthiadau wythnosol a bwciwch eich dosbarth yma neu cysylltwch â classes@jukeboxcollective.com

Rydym hefyd yn cynnig bwrsariaethau ac yn gweithredu polisi ‘talu beth allwch chi’ mewn perthynas â phob dosbarth.

Dewch i ddarganfod sut rydyn ni’n cadw ein dosbarthiadau’n ddiogel.

 

Subtitle

Beth sy’ ymlaen

Classes List
Subtitle

bwrsariaethau

Content Box

Mae ein Bwrsariaethau Cymunedol yn galluogi plant a theuluoedd sydd angen cefnogaeth ychwanegol i gymryd rhan yn ein gweithgareddau creadigol. I weld a ydych chi’n gymwys cysylltwch â classes@jukeboxcollective.com.

 

Oes gyda chi ddiddordeb mewn cefnogi bwrsariaeth? Ewch i’n tudalen Cefnogi Ni i gael gwybod sut y gallech chi alluogi plentyn neu berson ifanc i ddilyn ei ddiddordebau/diddordebau creadigol e/hi.

Subtitle

gweithdai

Content Box

bwcio gweithdy

Cymerwch gip ar y gweithdai rydyn ni’n eu cynnig isod neu cysylltwch â ni os oes gyda chi syniad am rywbeth mwy pwrpasol.

bwcio gweithdy

Image Grid

pwrpasol

Rydym yn cynnig gweithdai arbenigol wedi’u teilwra i gyd-fynd ag anghenion ein cleientiaid. Mae gennym gronfa dalentog o diwtoriaid sy’n brofiadol mewn amrywiaeth o wahanol arddulliau a genres. Gyda dros ugain mlynedd o brofiad o gyflwyno gweithdai mewn ysgolion, prifysgolion, cwmnïau corfforaethol, gwyliau a digwyddiadau, rydym yn darparu profiadau unigryw sydd wedi’u gwreiddio mewn diwylliant.

repertoire y cwmni

Dyma ddetholiad o weithdai sydd wedi’u cynllunio er mwyn rhoi i chi gipolwg ar ein harddull goreograffig a’n technegau perfformio.

hyfforddiant arweinwyr dawns

Rydym yn cynnig rhaglenni hyfforddi dwys i ddawnswyr ifanc sydd am ddatblygu eu sgiliau, ac mae hyn yn cynnwys mentora, uwchsgilio a dysgu pwrpasol er mwyn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder hanfodol i gyfranogwyr allu cychwyn ar eu taith i ddod yn diwtor dawns.

addysg

Rhaglenni addysg amgen sy’n gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid er mwyn denu pobl ifanc sydd â diddordeb yn y celfyddydau creadigol ac sy’n well ganddynt ddull mwy ymarferol ac ymdrwythol o ddysgu.

Llwytho