Page Cover Half

pobl

Liara Barussi
Cyfarwyddwr Artistig
BIO

Liara yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Jukebox Collective. Mae ei gweledigaeth wedi’i gwreiddio mewn cydweithredu ac archwilio’r cysyniad o ddawns fel iaith ar gyfer chwedleua (adrodd straeon) ysbrydoledig. Mae hi wedi cyfarwyddo, curadu, dysgu a chreu gwaith ar gyfer amrywiaeth o brosiectau a chleientiaid lleol a rhyngwladol. Mae Liara yn enwog am gyflwyno gwaith pwerus, ysbrydoledig ym maes addysg a datblygu artistiaid ac mae hi wedi ymroi i’r dasg o greu llwyfannau ar gyfer ieuenctid lleol a chynhyrchu gwaith perfformio aml-lwyfan ac arloesol.

Darnell Williams
Cynhyrchydd Cynorthwyol (Digwyddiadau a Digidol) a Thiwtor
BIO

Mae Darnell wedi bod yn ymwneud â Jukebox Collective ers yn ifanc iawn; bu’n dawnsio yn gyntaf gyda Jukebox Juniors, un o’n criwiau dawns cynharaf yn ôl yn 2010. Ers hynny mae Darnell wedi dechrau astudio Ysgrifennu Caneuon a datblygu ei yrfa fel Artist Cerdd. Ochr yn ochr â hyn, mae’n gweithio gyda ni fel ein cynhyrchydd cynorthwyol ac yn cyflwyno dosbarthiadau dawnsio stryd wythnosol i’n clwb plant.

Tarina Tajul
Cynorthwyydd Academi
BIO

Mae Tarina, ar hyn o bryd, yn cynorthwyo gyda’r dasg feunyddiol o redeg Rhaglen yr Academi, gan sicrhau Lles ein myfyrwyr a chefnogi cydlynydd y rhaglen gyda gweinyddiaeth yr Academi. Mae Tarina yn frwd dros iechyd a lles ac mae hi’n rhedeg ei busnes creu suddoedd ei hun, ac yn dosbarthu sudd yn wythnosol o amgylch Caerdydd.

Three-Jay
Tiwtor Cerdd
BIO

Three-jay sy’n dysgu’r dosbarthiadau canu yn yr Academi ac mae e’n mwynhau gweld hyder y myfyrwyr yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Bu’n rhan o nifer fawr o brosiectau addysgol ac academïau trwy gydol ei yrfa, ac mae e’n cefnogi pobl ifanc gyda mentora, dysgu a datblygiad artistiaid.

Truli Smith
Arweinydd Dawns
BIO

Mae Truli yn unigolyn aml-dalentog sydd yn y broses o ddatblygu ei gyrfa artistig fel dawnswraig a dylunydd. Hi yw sylfaenydd Lab Creatives ac mae’n astudio dylunio ffasiwn yn y coleg. Ar hyn o bryd mae Truli yn y bedwaredd flwyddyn yn yr Academi a chaiff ei chynrychioli ar ein hasiantaeth. Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant arweinydd dawns, mae hi bellach yn cyflwyno dosbarthiadau hip hop fel rhan o’n rhaglen gymunedol.

Brooke Milliner
Tiwtor Dawns Gwadd
BIO

Mae Brooke yn arbenigo’n bennaf yn arddulliau dawnsio ffync ‘popping’ a ‘locking’ ac mae wedi meithrin enw da fel rhagflaenydd sȋn stryd y DU ar ôl ennill nifer o gystadlaethau rhyngwladol yn ogystal â chael gwahoddiad rheolaidd i feirniadu cystadlaethau ar draws y byd. Brooke yw coreograffydd a phrif ddawnsiwr Plague – criw a fu ddwywaith yn bencampwyr yr Hip Hop International a’r tîm dawns animeiddio newydd sbon, Pro-Motion; mae e hefyd yn aelod allweddol o’r grwpiau dawns Funkstylerz a Fiya House.

Lauren Patterson
Cyfarwyddwr Strategol
BIO

Lauren yw’r Cyfarwyddwr Strategol ac mae’n gweithio’n agos gyda Liara er mwyn cyflawni a thyfu gweledigaeth a chenhadaeth greadigol y sefydliad. Mae gan Lauren dros 10 mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiannau creadigol; ar ôl graddio o Goleg Ffasiwn Llundain bu’n byw yn Hong Kong a Japan, gan gydweithio â phartneriaid a chleientiaid ar draws Asia, Ewrop ac UDA. Mae Lauren yn goruchwylio ein cyfathrebiadau brand, yr asiantaeth a’n cynyrchiadau gan ddefnyddio ei phrofiad rhyngwladol yn y diwydiannau creadigol.

Lizzie Burgess
Cydlynydd Rhaglenni
BIO

Lizzie yw ein Cydlynydd Rhaglenni a hi yw arweinydd gweithgareddau yr Academi ac Addysg. Ymunodd â’r tîm ar leoliad prifysgol i gychwyn ac mae hi bellach yn gweithio’n agos gyda’n Cyfarwyddwyr yn y dasg o ddatblygu ein rhaglen Academi amlddisgyblaethol a chefnogi ein talent ddatblygol.

Shawn Aimey
Tiwtor Dawns yr Academi
BIO

Mae Shawn yn ddawnsiwr amryddawn ond mae’n adnabyddus yn bennaf am ei arddull unigryw ym maes Popping a Locking. Mae e wedi ymrwymo i ddatblygu sȋn ‘dawnsio stryd’ gref a dylanwadol yn y DU ynghyd â meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent Brydeinig. Mae’n aelod o Plague and Fiyah House ac yn sylfaenydd A.I.M Collective. Gyda’i flynyddoedd lawer o arbenigedd, mae Shawn yn cyflwyno tiwtora wedi’i deilwra sy’n rhychwantu dawnsio sylfaenol i ddulliau rhydd ar gyfer myfyrwyr yr Academi.

Georgia Collins
Tiwtor Dawns
BIO

Mae Georgia yn ddawnswraig bale, tap, jazz a masnachol hyfforddedig a chanddi radd mewn dawns gyfoes o’r Conservatoire Trinity Laban. Un o’n tiwtoriaid craidd yn yr Academi yw Georgia ac mae hi’n gweithio gyda’r myfyrwyr trwy gyfrwng dawns gyfoes yn ogystal â hyblygrwydd a chryfder.

Patrik Gabco
Arweinydd Dawns
BIO

Yn 2015 symudodd Patrik o’r Weriniaeth Tsiec i Gaerdydd a dechreuodd ddawnsio yn fuan wedi hynny. Mae e’n rhan o’r Academi ar hyn o bryd a chaiff ei gynrychioli ar ein hasiantaeth. Mae Patrik wedi ymroi i ddatblygu ei ddisgyblaethau artistig fel dawnsiwr ac actor ac mae e hefyd yn dysgu popping yn ein dosbarth agored cymunedol.

Ally Gibson
Cynorthwyydd Gweithredol
BIO

Ally yw ein Rheolwr Cyffredinol ac fe ymunodd hi â’r tîm yn 2019 ar ôl graddio o’i Chwrs Gradd Meistr mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae Ally yn arwain yn ein gwaith codi arian, cyllid, AD a llywodraethu gan sicrhau a chynorthwyo ein tîm i gyrraedd eu targedau.

Naomi Patterson
Dylunydd Graffig
BIO

Mae Naomi yn unigolyn creadigol amlddisgyblaethol sy’n gweithio gyda Jukebox Collective ar ein ffotograffiaeth a’n hallbynnau gweledol.

Tayla Smith
Tiwtor Dawns
BIO

Dawnswraig yw Tayla a hi yw sylfaenydd criw cyfunol, creadigol WDGAF RAW. Bu’n gweithio’n agos gyda Jukebox Collective dros y blynyddoedd pan oedd hi’n astudio dawns yn Llundain. Mae Tayla yn gweithio gyda’n myfyrwyr er mwyn datblygu eu harddulliau symud gan roi ffocws penodol ar hip hop.

Youness El Mouaffaq
Tiwtor Dawns
BIO

Cafodd Youness El Mouaffaq‘’Cri6’’ ei eni a’i fagu ym Moroco ac mae’n adnabyddus yn rhyngwladol am ei osgeiddrwydd a’i athletiaeth fel bboy. Gyda’i wybodaeth helaeth a’i gysylltiad â’r gymuned ddawns ryngwladol, mae e wedi perfformio ac wedi ennill teitlau buddugol yn rhai o gystadlaethau mwyaf y byd, ac yn eu plith Rownd Derfynol Red Bull BC ONE, cyfres UNDISPUTED World, BBIC KOREA, B.I.S China a llawer mwy. Ar hyn o bryd mae Youness yn dysgu breakdancing yn yr Academi.

Jo-el Bertram
Arweinydd Dawns
BIO

Mae Jo-el yn grëwr cynnwys, yn ddawns ac yn wneuthurwr ffilmiau talentog. Yn ddiweddar, cychwynnodd ei sianel YouTube bersonol a’i gyfrif Instagram sy’n arddangos ei waith ffotograffiaeth a fideograffeg. Bu Jo-el yn mynych’r Academi ers iddi ddechrau yn ôl yn 2015. Ef bellach sy’n dysgu ‘hip hop’ i’r dosbarth cymunedol agored, ochr yn ochr â mynychu’r coleg a chymryd rhan ym mhrosiect ‘Duets’ Jukebox Collective ar y cyd gyda Ballet Cymru.

Sarah Morgan
Cydlynydd Marchnata
BIO

Mae Sarah yn gweithio gyda ni fel ein Cydlynydd Marchnata a hi yw’r aelod mwyaf newydd yn y tîm, gan iddi hi ymuno â ni ym mis Chwefror. Mae hi hefyd yn farchnatwr digidol llawrydd sy’n gweithio gydag elusennau nid-er-elw er mwyn ysbrydoli gweithredu a newid cadarnhaol.

Temeka Davies
Rheolwr Prosiect
BIO

Ymunodd Temeka â’r tîm fel ein Cynorthwyydd Ymgysylltu â’r Gymuned i gychwyn ac mae hi bellach yn cydlynu ein prosiectau ac yn cefnogi’r tîm Cyfathrebu. Mae hi hefyd yn arlunydd cyfoes a haniaethol sy’n paentio dan yr enw Noble Sol.

Jodelle Douglas
Tiwtor Dawns
BIO

Artist symudiadau, model a dylanwadwr o Fryste yw Jodelle. Mae e wedi gweithio’n agos gyda’n Cyfarwyddwr Artistig dros yr 8 mlynedd diwethaf er mwyn datblygu gwaith theatr a pherfformiadau parod. Mae Jodelle yn cyflwyno sesiynau tiwtora unigryw yn ein hacademi sy’n annog myfyrwyr i ddod o hyd i’w mynegiant personol a hynny trwy symudiadau.

Kate Morris
Tiwtor Dawns
BIO

Mae Kate wedi dawnsio gyda Jukebox Collective ers pan oedd hi’n 8 oed, ac mae hi wedi manteisio ar lawer o gyfleoedd ar hyd ei thaith. Ar hyn o bryd mae hi’n datblygu ei gwaith theatr unigol a’i hyfforddiant ym myd dawnsio ac actio. Mae Kate yn dysgu ‘popping’ a ‘locking’ yn yr Academi yn ogystal ag yn ein dosbarthiadau cymunedol wythnosol.

Reuel Bertram
Tiwtor Dawns
BIO

Daw Reule o Gaerdydd ac mae’n un o gyn-fyfyrwyr Jukebox Collective gan iddo fod yn dawnsio gyda Jukebox Juniors yn blentyn. Mae e wedi bod yn rhan o ddiwydiant y celfyddydau perfformio ers dros ddegawd, boed hynny ym myd y Ddawns, Actio neu yn ei drywydd cyfredol, ac mae e wedi creu presenoldeb blaenllaw yn y diwydiant cerddoriaeth. Ar hyn o bryd Reuel sy’n dysgu ein gweithdai gwesteion i sefydliadau ar draws Cymru e.e. Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Llwytho