Page Cover Half

ein cefnogi ni

Content Box

Sefydliad Portffolio Celfyddydau Cenedlaethol yw Jukebox Collective ac fe’i cefnogir trwy ddefnydd o gyllid cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Fel cwmni nid-er-elw, caiff unrhyw elw a wnawn ei ail-fuddsoddi yn y cwmni er mwyn hyrwyddo ein gweithgareddau a’n nodau uchelgeisiol. Er mwyn parhau i greu gwaith arloesol a grymuso cymunedau rydym yn dibynnu ar roddion gan unigolion, busnesau ac ymddiriedolaethau a sefydliadau. Ni fyddai gwaith o’r fath sydd mor eang ei orwelion yn bosibl heb gefnogaeth amhrisiadwy ein partneriaid.

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi ein gwaith a rhoi rhodd ar-lein.

Content Box

rhoi unigol

Pan fyddwch yn rhoi rhodd i Jukebox Collective, rydych yn buddsoddi yn ein taith ac yn ein gweledigaeth ysbrydoledig ar gyfer y dyfodol. Bydd eich rhodd yn mynd tuag at y cynyrchiadau y byddwn yn eu creu, y cymunedau y byddwn yn eu cyrraedd, yr artistiaid a’r myfyrwyr y byddwn yn eu cefnogi a’r lleisiau nas clywir sy’n haeddu cael eu llwyfannu.

Cyfrannu

Content Box

partneriaethau corfforaethol

Mae Jukebox Collective yn edrych i feithrin perthnasoedd ystyrlon â busnesau ar hyd a lled y wlad. Mae angen eich cefnogaeth arnom er mwyn gallu cyrraedd mwy o gynulleidfaoedd, cefnogi mwy o artistiaid a bod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol o ran ein cynyrchiadau.

Byddwn yn cyflwyno prosiectau arloesol o werth economaidd a chymdeithasol er mwyn creu partneriaethau pwrpasol sy’n ymgysylltiedig, yn agored ac yn ysbrydoledig i’r ddwy ochr. I gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd partneriaeth, neu i drefnu cyfarfod, cysylltwch ag Ally Gibson (Rheolwr Cyffredinol) ar ally@jukeboxcollective.com.

Content Box

ymddiriedolaeth a sefydliadau

Hoffem ddiolch o waelod calon i’r holl gyrff rhoi grantiau sy’n cefnogi ein gwaith. Ni fyddai modd i ni allu creu popeth rydym ni’n ei wneud heb eich cefnogaeth hael chi a gobeithiwn y byddwch yn parhau i’n helpu yn y dyfodol.

Llwytho