Production Cover

butetown’s vibrant community -cy

Content Box

“Byddwch yn sicr.”

Yn ‘Black History Month: Tre-biwt’s vibrant community with deep roots’ rhoddodd Mo Jannah sylw i Jukebox Collective fel ffigwr allweddol sy’n arwain cymuned Ddu lewyrchus Cymru. Pan symudodd Mo i Gaerdydd o Birmingham 14 mlynedd yn ôl roedd ganddo ddisgwyliadau o sut le fyddai Cymru, ond doedd e ddim yn disgwyl dod o hyd i hanes cyfoethog trigolion Du Tre-biwt y mae modd ei olrhain yn ôl trwy genedlaethau. Yn y rhaglen ddogfen fer hon, mae e’n archwilio presenoldeb y gymuned Ddu yn Nhre-biwt, o’r trigolion sydd yma heddiw, yn ôl i hanes sut y daeth eu teuluoedd i ymgartrefu yng Nghymru.

Content Box

Cyflwynir Reuel Elijah, arweinydd dawns Jukebox Collective, fel ‘trailblazer cerddorol’, sy’n dysgu dosbarth gyda’n myfyrwyr ac yn meithrin eu hyder i gyrraedd eu potensial. Dywed wrth Mo, “Mae’n dechrau gyda’r ddawns, ond gall yr hyder fynd â chi i unrhyw le.”

Youtube Video
Llwytho