Production Cover

SSAP: AFRICAN BALL

Content Box

I ddathlu 10 mlynedd o Banel Cynghori Is-Sahara (Sub-Sahara Advisory Panel SSAP) comisiynwyd Jukebox Collective i ddatblygu perfformiad pwrpasol ar gyfer y Gala. Roedd y digwyddiad yn dathlu bywiogrwydd y cyfandir a’r gymuned Affricanaidd yng Nghymru. Roedd yn sesiwn arddangos i drysorau diwylliannol Affrica, cyfandir mwyaf bywiog y byd, drwy ddathlu ei bwyd, ffasiwn, cerddoriaeth, dawns a’i barddoniaeth.

Content Box
Content Box

Bu chwedleuwyr Cymreig lleol, beirdd, cerddorion a siaradwyr gwadd a DJ yn diddanu gwesteion gyda synau o bob rhan o’r cyfandir ac yn eu plith roedd Highlife, Rhumba, Ndomboloo, Afrobeats, Soukous, Kizomba a mwy.

Roedd hwn yn bendant yn un o’n hoff ddigwyddiadau Cymreig y flwyddyn!

Content Box
Content Box

SSAP

Melin drafod annibynnol ar ddatblygiad rhyngwladol yw Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP). Nod SSAP yw ystyried a dilyn anghenion Grwpiau Alltud yn eu gwaith datblygu rhyngwladol, a hwyluso gwybodaeth a sgiliau Grwpiau Alltud yng Nghymru i’w defnyddio i gynghori a chefnogi Sefydliadau Datblygu Rhyngwladol Cymreig brodorol. Dilynwch eu gwaith yma here.

Llwytho