Page Cover

amdanom ni

Rydym yn grŵp cyfunol, gyda’i wreiddiau yn y gymuned dan arweiniad pobl ifainc sy’n meithrin lleisiau creadigol yfory. Rydym yn gwneud hyn trwy ein dosbarthiadau amlddisgyblaethol, academi ac asiantaeth greadigol lle’r ydym yn arbenigo mewn rheoli artistiaid, castio, curadu ac ymgynghori.
Subtitle

beth ydyn ni’n ei wneud

Image Grid

dosbarthiadau

Dosbarthiadau amlddisgyblaethol, prosiectau allgymorth cymunedol, cyfleoedd hyfforddi a gweithdai ar hyd ac ar led Cymru a thu hwnt.

academi

Rhaglen datblygu artistiaid sy’n darparu cyfle cynhwysol unigryw i fyfyrwyr ddatblygu’n artistig a chyflawni eu potensial er mwyn llunio dyfodol cadarnhaol, creadigol.

asiantaeth

Rheoli artistiaid, castio, curadu ac ymgynghori. 

cynyrchiadau

Gwaith perfformio arloesol aml-lwyfan sy’n agor cyfleoedd newydd.

 

Image Text Special

Ein cenhadaeth yw dathlu gogoniant amrywiaeth a chreu gofod lle gall ein cymuned fynegi eu hangerdd a sicrhau llwyddiant. Rydym wedi ymroi i alluogi symudedd cymdeithasol a darparu profiadau trawsnewidiol i unigolion a chymunedau. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr artistig yn adlewyrchu’r Gymru gyfoes, fodern. 

Subtitle

gwerthoedd

Image Grid

cyfle

Adeiladu llwyfannau sy’n cefnogi, yn meithrin ac yn arfogi pobl greadigol yr yfory.

cymuned

Grymuso cymunedau ymylol a chwyddo lleisiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

gwelededd

Adeiladu llwyfannau ar gyfer talent amrywiol er mwyn herio stereoteipiau a chymryd cyfrifoldeb dros eu hadroddiadau eu hunain.

cydweithio

Ymuno ag unigolion talentog a mentrau sy’n gyrru diwylliant yn ei flaen.

creadigrwydd

sbrydoli eraill i ddefnyddio creadigrwydd er mwyn ymgysylltu a meithrin cyswllt.

mynegiant

Credwn fod gan bawb yr hawl i ryddid artistig a’i alluoedd trawsnewidiol. 

Image Text Special

Mae hiliaeth yn brofiad byw bob dydd i lawer o’n staff, ein myfyrwyr a’n rhwydwaith. Mae ein gwaith yn creu newid ystyrlon yn y diwydiannau creadigol yn ogystal ag ym mywydau unigol y bobl ifanc y byddwn yn eu mentora. Rydym yn gweithio i gael gwared ar rwystrau cymdeithasol, economaidd, daearyddol ac ariannol er mwyn sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Rydym wedi sefyll gyda’n cymuned i ymladd yn erbyn hiliaeth systemig a bwriadwn wneud hynny bob amser, ac felly byddwn yn parhau i weithredu fel na fydd y genhedlaeth nesaf yn wynebu’r un gwahaniaethu, anghydraddoldeb ac anghyfiawnder ag sy’n bodoli heddiw.

Image Text Special

“Dechreuodd y cyfan trwy sefydlu cwmni dawns a fyddai’n gallu perthyn i’r gymuned; gofod lle rydych chi’n teimlo eich bod chi’n perthyn.” Liara Barussi, Cyfarwyddwr Artistig a Sylfaenydd. 

Mae Jukebox Collective, a sefydlwyd yn 2001 gan Liara Barussi, yn benllanw dros 15 mlynedd o brofiad o weithio’n agos gyda chymunedau amlddiwylliannol a meithrin cysylltiadau yn y diwydiannau creadigol. Rydym wedi tyfu o fod yn gwmni dawns ar lawr gwlad i gwmpasu amrywiaeth o arferion creadigol, gan gynnwys rhaglen gelf amlddisgyblaethol sy’n buddsoddi yn y tymor hir er mwyn meithrin talent ifanc a chynnig cyfleoedd iddyn nhw ddatblygu gyrfaoedd yn y sector creadigol. Mae Jukebox, sydd bellach wedi’i leoli yn Nhre-biwt, rhan o Gaerdydd sy’n gartref i rai o’r cymunedau Du Prydeinig hynaf ym Mhrydain, ar flaen y gad o ran helpu i ddatblygu newid strwythurol ym myd y celfyddydau, ac mae’n chwarae rhan annatod yn natblygiad creadigol pobl ifanc yng Nghymru. Rydym yn parhau i feithrin rhwydwaith o unigolion creadigol Cymreig, gan roi llwyfan i leisiau a safbwyntiau ieuenctid lleiafrifol, ynghyd â defnyddio ein llwyfan personol i hyrwyddo eu gwaith.

I gydnabod ein gwaith uchel ei safon a’n heffaith gymdeithasol, yn 2017 ni oedd y sefydliad cyntaf a’r unig sefydliad dan arweiniad Pobl Ddu i dderbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel un o’i sefydliadau Portffolio Celfyddydau Cenedlaethol. Gyda’n hanes o ddatblygu gwaith sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol â phobl ifanc ac sy’n cynrychioli diwylliant cyfoes Cymru, mae ein portffolio eang wedi ein gweld ni’n partneru â nifer o grwpiau a sefydliadau ysbrydoledig, o Gymru draw i Orllewin Affrica. Wrth i ni barhau i dyfu, rydym yn aros yn driw i’n gwerthoedd craidd ac yn ymdrechu i sicrhau dyfodol teg i bawb.

Llwytho