Work Cover

gwyl y llais: jaffrin

Content Box

Bu Jukebox Collective yn curadu cyfres o berfformiadau a ffilmiau byr sy’n tynnu sylw at bobl greadigol o Gymru ar gyfer Gŵyl 2021.

Gweithiodd Jukebox Collective gyda Jaffrin, bardd Cymreig, Bangladeshaidd, Mwslimaidd ac artist amlddisgyblaethol sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae ei dwy gerdd SKN & FAITH wedi eu dwyn yn fyw trwy ddelweddau barddonol gweladwy a ffilmiwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Cyfarwyddwyd gan Liara Barussi a’u steilio gan y steilydd Cymreig-Somalïaidd lleol, Asma Elmi.

 

 

Content Box
Content Box

Mae SKN yn tynnu tebygrwydd o deulu brenhinol Prydain, gan gwestiynu’r gyffelybiaeth rhyngddynt a’r ideolegau y mae teuluoedd o gefndiroedd lleiafrifol hiliol yn eu pleidio er mwyn cadw enw da yn eu cymuned. Mae’r cerddi byrion yn cwestiynu naratifau trefedigaethol a sut mae safonau harddwch gorllewinol wedi’u cynnwys yng nghymunedau De Asia.

 

“Wrth dyfu i fyny, roedd lliw croen yn bwnc trafod rheolaidd yn fy nheulu ac roeddwn i’n aml yn cael fy annog i gadw allan o’r haul oherwydd byddai fy nghroen yn tywyllu, gyda’r awgrym y byddai hynny’n fy ngwneud i’n llai atyniadol.”

Content Box
Content Box
Content Box

Mae’r gerdd yn tynnu ar brofiadau personol Jaffrin, ac yn eu plith daith i India, lle bu’n rhaid iddi wynebu realiti anesmwythol defosiwn y wlad i’r Frenhines Fictoria. Daeth y naratif hwn hyd yn oed yn fwy amlwg pan ymddangosodd erthygl yn y newyddion am Meghan Markle yn torri protocol brenhinol trwy groesi ei choesau yn hytrach nag eistedd ar oledd. Rhywbeth, yn yr un modd, roedd ei theulu hi ei hun yn gwgu arno ac a fu’n ysbrydoliaeth i ran o’r gerdd hon; “ai dyna’r hyn a ddigwyddodd pan wnaethom ni fabwysiadu eu hideoleg nhw”, mae hi’n gofyn.

Content Box
Content Box
Content Box

Dywed Jaffrin, “Rwy’ wedi teimlo’n unig yn fy nghroen ac yn fy enaid gynifer o weithiau ac rwy’n gwybod bod hynny’n beth trosglwyddadwy iawn – dwi jyst eisiau i bobl deimlo cysur wrth uniaethu, a hynny trwy fy ngwaith a deall nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.”

Content Box

Mae FAITH yn tynnu’n helaeth ar brofiadau Jaffrin ei hun, gan archwilio crefydd, defodau a’r brwydrau rhwng ‘deen’ a ‘dunya’ (crefydd a bywyd go iawn).

Content Box
Content Box

Roedd Gŵyl 2021 yn gydweithrediad rhwng Gŵyl y Llais/Festival of Voice, FOCUS Cymru, Lleisiau Eraill Aberteifi/Other Voices Cardigan a Gŵyl Gomedi Aberystwyth. Gyda’i gilydd fe wnaethant ddwyn ynghyd rhai o leisiau mwyaf taer a chyffrous ein dydd, o Gymru a thu hwnt. Y canlyniad oedd profiad digidol heb ei ail: cymysgedd bensyfrdanol o gomedi blaengar, sgyrsiau pryfoclyd, sioeau arddangos egnïol a setiau syfrdanol gafodd benawdau breision.

Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Llwytho