Content Box

Jukebox Collective yn cyhoeddi ei ran yn arddangosfa Beyond the Bassline yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain. Fel eu partner yng Nghymru, mae eu ffilm Of Us, yn rhannu persbectif difesur ar y dasg o archwilio 500 mlynedd o gerddoriaeth Ddu ym Mhrydain.

Mae Beyond the Bassline (Ebrill 26 – Awst 26, 2024) yn nodi moment hanesyddol gan mai dyma’r arddangosfa fawr gyntaf i ddogfennu taith gerddorol gyfoethog pobl Affricanaidd a Charibïaidd ym Mhrydain. Trwy arddangosfa o archifau sain, arteffactau, perfformiadau, a chyflwyniadau amlgyfrwng, mae’r arddangosfa’n archwilio’r bobl, y gofodau a’r genres sydd wedi trawsnewid tirwedd cerddoriaeth Prydain, gan ymchwilio i effaith cerddorion, pobl greadigol ac entrepreneuriaid Du Prydeinig ar gerddoriaeth boblogaidd ers yr 16eg ganrif.

Mae Of Us (2024), cynhyrchiad Jukebox Collective, a gomisiynwyd gan y Llyfrgell Brydeinig, yn cael ei gyflwyno yng ngofodau “ymyriadau/interruption” yr arddangosfa. Liara Barussi yw cyfarwyddwr a choreograffydd y ffilm ac fe’i ffilmiwyd yn Ne Cymru; mae’r ffilm yn talu teyrnged i dreftadaeth un o gymunedau Du hynaf y DU sydd wedi’i lleoli yn Tiger Bay, Caerdydd. Trwy ddawns a symudiad, mae’n myfyrio ar themâu ymfudo, hunaniaeth a’r cysylltiad hynafiadol parhaus rhwng y corff a’r cof.

 

“Mae Of Us yn teithio i isleisiau ein moroedd, gan blethu straeon am ymfudo â symbolaeth gyffredinol dŵr. Gan adleisio cysyniadau Black Aquatic a Tidalectics, mae’r ffilm yn cyfosod yr hylifol a’r sefydlog” meddai Cyfarwyddwr Artistig Jukebox Collective, Liara Barussi. 

 

Caiff y ffilm fer ei harddangos yng ‘ngofod y cefnfor/ocean space’ a bydd yn cynnig profiad gweledol a chlywedol ymdrwythol i ymwelwyr. Mae’n cynnwys seinwedd gan lwyfan curadurol Touching Bass o dde Llundain gyda’r gwaith steilio gan Lauren Anne Groves ynghyd â darnau gan frandiau sy’n eiddo i Bobl Dduon, ac yn eu plith ceir Ahluwalia a Jawara Alleyne. Mae’r ffilm hefyd yn rhoi llwyfan i gast o dalent ifanc Du Cymru o raglen ‘datblygu artistiaid’ y sefydliad.

 

“Mae’n anrhydedd i ni gynrychioli Cymru yn yr arddangosfa hanesyddol hon; mae’r ffilm yn talu teyrnged i gymunedau Duon Cymru sy’n aml yn cael eu hanwybyddu a’u tangynrychioli. Tynnir sylw at eu treftadaeth a’u diwylliant gan eu bod yn croestorri â naratif ehangach cerddoriaeth Ddu Brydeinig.” – Liara Barussi

 

Wedi’i churadu gan Dr Aleema Gray mewn cydweithrediad â Dr Mykaell Riley, mae Beyond the Bassline yn addo ehangu dealltwriaeth y gynulleidfa o gerddoriaeth Ddu Brydeinig a’i safle oddi mewn i dreftadaeth gerddorol Prydain.

Content Box
Content Box

Am yr Arddangosfa

 

I gael gwybodaeth bellach am yr arddangosfa ewch i beyondthebassline.seetickets.com

Mae tocynnau ar gael i’w prynu ar-lein gyda dyddiau Talu’r Hyn a Allwch ar gael ar ddydd Mercher cyntaf pob mis.

 

Content Box

Credydau Ffilm Film Credits

 

Cyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Symud: Liara Barussi
Cynhyrchydd: Lauren Patterson
Cyfarwyddwr ffotograffiaeth: Nathan O’Kelly
Dylunio Sain: Touching Bass
Steilydd: Lauren Anne Groves
Ymgynghorydd Creadigol: Leyman Lahcine
Cast Arweiniol: Gui Pinto, Venice Williams, Monet Williams
Cast: Jukebox Academy – Teaghan Scanlon, Karim Mohamed, Fatima Jarju, Ayoola Wonder,
Elizabeth Oredola, Perez Rodriques, Rio Rodriques, Quincy Chambers, Akeylah Hinton,
Blessing Oredola, Sheighley-Sky
Cynorthwywyr Symudiadau: Darnell Williams, Naomi Ferne, Patrik Gabco, Millie Campion
Steilydd Gwallt: Trent Jackson
Barbwr: Isaac Omoyibo
Golygydd: Pawel Achtelik
Lliwiwr: Sharon Chung
Dylunio Graffig: Henny Valentino

Content Box

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu gyfweliad, cysylltwch os gwelwch yn dda â 

 

Lauren Patterson

Cyfarwyddwr Strategol, Jukebox Collective

Samandal Sidig

Cydlynydd Marchnata, Jukebox Collective

Content Box

Oherwydd pandemig COVID19, ataliwyd ein gweithgareddau wyneb yn wyneb a symudwyd ein dosbarthiadau ar-lein, rhywbeth nad oeddem erioed wedi’i wneud o’r blaen. Gwyddom am yr effaith gadarnhaol mae ein gwersi yn ei chael ar les ein tiwtoriaid a’n myfyrwyr, gyda llawer ohonynt yn dod o gefndiroedd difreintiedig sydd mewn perygl penodol o effeithiau’r pandemig. Felly, roedd yn hanfodol ein bod yn cadw ein cymuned yn brysur ac yn gysylltiedig yn ystod cyfnodau anodd. Roedd ein dosbarthiadau ar-lein yn rhad ac am ddim i’w mynychu; ac yn eu plith roedd y Clwb Plant, Cysyniadau/Concepts, dosbarthiadau agored a mwy ar Zoom ac Instagram Live.

Content Box
Content Box

Er mwyn parhau â’r dosbarthiadau ar-lein hyn, gan sicrhau bod ein tiwtoriaid ymroddedig yn cael eu talu a’r gwersi yn cael eu cadw am ddim i fyfyrwyr, roedd angen cymorth ychwanegol arnom. Felly lansiwyd ymgyrch cyllido torfol gennym oedd yn rhoi sylw i’n cymuned gan alw ar ein cefnogwyr i gyfrannu’n ariannol er mwyn helpu ein dosbarthiadau ar-lein.

Youtube Video
Content Box

Bu’r ymgyrch yn llwyddiant, a llwyddwyd i godi digon o arian i barhau i weithio ar-lein yn ystod y pandemig a thu hwnt, yn ogystal â llwyddo i gyfateb rhoddion gan gefnogwyr hael! Dyma beth oedd gan rai o’n tiwtoriaid a’n myfyrwyr i’w ddweud am ddosbarthiadau ar-lein:

Content Box
Content Box

“Mae dosbarthiadau ar-lein yn fy helpu gryn dipyn i ddatblygu fy sgiliau a’m hyder. Rwy’n meddwl ei bod hi’n anhygoel sut y gallwn ni i gyd ddal i gyfathrebu er ein bod ar wahân.” – Chase, myfyriwr yn yr Academi

 

“Rwy’n hoff iawn o ddosbarthiadau ar-lein oherwydd ei fod yn ofod diogel lle gallwch ryngweithio â’ch ffrindiau. Maen nhw’n ein cadw ni’n hynod iach ac maen nhw wir wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau perfformio a dawnsio. Mae Jukebox yn un teulu mawr.” – Leila, myfyriwr yn yr Academi

 

“Mae’r platfform hwn yn caniatáu i bobl ddod o hyd iddyn nhw eu hunain; gallaf weld gymaint y mae hyn yn cael ei werthfawrogi gan y myfyrwyr sy’n dod i’m dosbarthiadau cysyniad. Mae’r ymdeimlad hwnnw o berthyn a chael y gymuned honno yn gefn yn dod â’r gorau allan o bobl.” – Ramelle, Tiwtor

Content Box

JO-EL

Content Box
Content Box

“Mae’r Academi wedi fy helpu i symud ymlaen yn greadigol a datblygu fy sgiliau arwain; eleni rwy’n canolbwyntio ar ‘Hip Hop’, ‘’Litefeet “a chryfhau fy symudiadau pŵer. Mae gweld twf y myfyrwyr iau wrth iddyn nhw ddatblygu i fod yn artistiaid ifanc hefyd yn fy ysbrydoli i.” 

Mae Jo-el yn 18 oed ac wedi bod yn rhan o deulu Jukebox ers deng mlynedd. Bu’n mynychu Academi Jukebox ers i honno ddechrau yn 2015, ac mae e bellach yn dysgu’r dosbarth cymunedol agored wythnosol, gan ddatblygu ei sgiliau fel tiwtor. Ochr yn ochr â mynychu’r coleg, mae Jo-el hefyd yn cymryd rhan ym mhrosiect Jukebox ‘Duets’ gyda Ballet Cymru. Mae Jo-el yn grëwr cynnwys talentog ac yn ddiweddar cychwynnodd ei sianel YouTube sydd wedi’i neilltuo i’w ffotograffiaeth a’i fideograffeg.

Content Box
Content Box

TRULI

Content Box
Content Box

“Dawns a ffasiwn yw fy mhrif ddiddordebau; rwy’ wrth fy modd yn rhan o’r Academi oherwydd rydyn ni’n cael ein mentora a’n hannog i ddatblygu ein harddull a’n cryfderau unigol. Yn y dyfodol, hoffwn ddawnsio’n broffesiynol, steilio ar gyfer perfformiadau ac artistiaid a dylunio fy nghasgliad dillad fy hun.”

Mae Truli yn 17 oed, ac mae hi’n dysgu dosbarth cymunedol agored Jukebox yn ogystal â bod yn fyfyriwr yn yr Academi. Ar hyn o bryd mae hi’n canolbwyntio ar ddatblygu ei thechneg dull rhydd a gweithio gyda myfyrwyr eraill i greu gwaith cydweithredol. Mae Truli hefyd yn astudio gwahanol agweddau ar y diwydiant ffasiwn yn y coleg, gan weithio ar yr un pryd ar syniadau print ar gyfer ei chwmni dillad datblygol, Lab Creatives.

 

Content Box
Content Box

GUI

Content Box
Content Box

“Rydw i wedi bod wrth fy modd yn dawnsio ers cyn cof. Roeddwn i’n arfer ffilmio fideos Youtube ac fe luniais i fy nghyfres ddawns fy hun hyd yn oed ar Facebook gyda fy ffrind! Un diwrnod clywais am ddigwyddiad ger canol y ddinas, sef Sadwrn Cymdeithasol/Social Saturday – dyna pryd ddechreuodd fy Nhaith gyda Jukebox.” 

 

Mae Gui yn 15 oed ac yn ei 4edd flwyddyn yn yr Academi. Mae wrth ei fodd gydag Afrodance ac arddulliau cyfoes, sy’n caniatáu iddo fynegi ei hun trwy wahanol ffurfiau celfyddyd ac i ddatblygu’n greadigol. Mae gan Gui ddiddordeb mewn ffasiwn, felly yn ddiweddar bu’n cynorthwyo gyda photoshoot i Gylchgrawn Al-Naaem, cylchgrawn golygyddol lleol sy’n archwilio diwylliant ffasiwn Du a Mwslimaidd. Roedd wrth ei fodd yn cael blas o sut beth yw bod y tu ôl i’r llenni ym myd cynhyrchu.

Content Box
Content Box

RENAE

Content Box
Content Box

“Rydw i wrth fy modd yn dawnsio oherwydd rydw i’n teimlo’n wirioneddol rydd a chyffyrddus. Mae’n cael effaith gadarnhaol ar y diwrnod ac rydych chi wir yn anghofio am y pethau drwg. Mae Jukebox yn helpu i feithrin fy hyder, ac rwy’ wrth fy modd bod yng nghwmni’r tîm cyfan!” 

 

Mae Renae yn 15 oed ac yn ei 4edd flwyddyn yn yr Academi. Yn ddiweddar bu’n ailberfformio ‘Maddie Ziegler’ yn ‘Big Girls Cry’ Sia’, a hynny mewn perfformiad hyfryd, emosiynol sydd i’w weld ar ein Instagram. Mae gan Renae ddiddordeb hefyd mewn creadigrwydd trwy harddwch; mae ganddi Instagram colur lle mae’n arddangos ei thalent fel artist colur.

Content Box
Content Box

GUI

Content Box
Content Box

“Rydw i wedi bod wrth fy modd yn dawnsio ers cyn cof. Roeddwn i’n arfer ffilmio fideos Youtube ac fe luniais i fy nghyfres ddawns fy hun hyd yn oed ar Facebook gyda fy ffrind! Un diwrnod clywais am ddigwyddiad ger canol y ddinas, sef Sadwrn Cymdeithasol/Social Saturday – dyna pryd ddechreuodd fy Nhaith gyda Jukebox.” 

 

Mae Gui yn 15 oed ac yn ei 4edd flwyddyn yn yr Academi. Mae wrth ei fodd gydag Afrodance ac arddulliau cyfoes, sy’n caniatáu iddo fynegi ei hun trwy wahanol ffurfiau celfyddyd ac i ddatblygu’n greadigol. Mae gan Gui ddiddordeb mewn ffasiwn, felly yn ddiweddar bu’n cynorthwyo gyda photoshoot i Gylchgrawn Al-Naaem, cylchgrawn golygyddol lleol sy’n archwilio diwylliant ffasiwn Du a Mwslimaidd. Roedd wrth ei fodd yn cael blas o sut beth yw bod y tu ôl i’r llenni ym myd cynhyrchu.

Content Box
Content Box

RENAE

Content Box
Content Box

“Rydw i wrth fy modd yn dawnsio oherwydd rydw i’n teimlo’n wirioneddol rydd a chyffyrddus. Mae’n cael effaith gadarnhaol ar y diwrnod ac rydych chi wir yn anghofio am y pethau drwg. Mae Jukebox yn helpu i feithrin fy hyder, ac rwy’ wrth fy modd bod yng nghwmni’r tîm cyfan!” 

 

Mae Renae yn 15 oed ac yn ei 4edd flwyddyn yn yr Academi. Yn ddiweddar bu’n ailberfformio ‘Maddie Ziegler’ yn ‘Big Girls Cry’ Sia’, a hynny mewn perfformiad hyfryd, emosiynol sydd i’w weld ar ein Instagram. Mae gan Renae ddiddordeb hefyd mewn creadigrwydd trwy harddwch; mae ganddi Instagram colur lle mae’n arddangos ei thalent fel artist colur.

Content Box
Content Box

Mae Juice Menace, sydd i’w gweld yn ein rhestr Artistiaid Cerdd, yn rapiwr ac yn unigolyn creadigol sy’n gosod Caerdydd ar y map. Fel artist newydd datblygol, mae hi wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol ac wedi cael sylw gan bobl fel GUAP, GRM Daily, Spotify a SBTV. A hithau’n gydweithredwraig, mae Juice wedi meithrin rhwydwaith o greadigion ifanc yng Nghaerdydd a Llundain sy’n cymryd rhan yn ei fideos a’i thraciau cerdd, gan gydweithio’n ddiweddar â chynhyrchwyr fel Flyo, Michelin Shin, SOS ac Elevated.

https://www.youtube.com/watch?v=O1jijdqFBic

Mae ei datganiadau diweddaraf, No Speaking, Sundown & Moneydance wedi gwthio Juice ymhellach yn ei gyrfa, yn yr hyn a fydd yn flwyddyn arloesol iddi. Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld rapiwr benywaidd yn cynrychioli Caerdydd ac yn awyddus iawn i weld beth fydd hi’n ei wneud nesaf.

Content Box
Content Box
Content Box

Dilynwch Juice ar Instagram

Content Box

Mae Ffion Campbell-Davies, sy’n cael sylw yn ein rhestrau o Greadigion Cymreig Du, yn Artist amlddisgyblaethol. Fel perfformwraig, dylunydd symudiadau, cyfarwyddwraig ac offerynwraig, mae Ffion yn asio cyfryngau artistig i greu canlyniadau ymdrwythol.

Content Box
Content Box

Yn raddedig o Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain, mae Ffion wedi teithio i Brasil, Cuba a Los Angeles er mwyn astudio gwahanol fathau o Affro-ddawns, yn ogystal â bod yn ffigwr yn sȋn ‘Hip Hop’ Tanddaearol Llundain. Rydym bob amser yn cael ein hysbrydoli gan ei gweledigaeth artistig a’i chreadigrwydd.

Content Box
Content Box

Mewn cyfweliad â chwmni cyfryngau Ieuenctid Cymru ‘Get The Chance’, dywedodd Ffion fod ‘Hip-Hop yn ddull o wrthwynebu, yn offeryn gwleidyddol ar gyfer ailadeiladu. Mae’n un o’r diwylliannau mwyaf dylanwadol ar y blaned, oherwydd ei gyfoeth o wybodaeth a’i ddysgeidiaeth trwy gelf draws-genhedlaeth; mae’n etifeddiaeth.’

Content Box
Content Box

Gwyliwch Ffion yn But Where Are you From? Cyfarwyddwyd gan Tina Pasotra ar gyfer Random Acts Channel 4.

Follow Fffion on Instagram.

Content Box

Mae Mace The Great sy’n cael sylw yn ein rhestr o Artistiaid Du ym myd Cerddoriaeth Cymru, yn rapiwr o Gaerdydd sy’n creu tonnau yn sȋn gerddoriaeth y DU. Mae gyrfa Mace, yn dilyn dwy record newydd eleni – Brave a Getting Love (MmmHmm) — a record newydd ar y ffordd, yn dechrau tanio. Mae Mace, sy’n tynnu sylw at Gaerdydd a chreadigion ar y tîm ynghyd â golygfeydd o’i fideos cerddoriaeth, yn anrhydeddu ac yn magu balchder yn nhrigolion Caerdydd.

Mae datganiad diweddaraf Mace, Brave, yn canolbwyntio ar y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys/Black Lives Matter yn 2020.

Mae Mace yn codi ei ddwrn sydd wedi’i amgylchynu gan doriadau papurau newydd, gan gyhoeddi ei fod yn ‘Dod o wlad y Dewrion’ mewn nód i Gaerdydd. Mewn erthygl am Brave, dyma ysgrifennodd y Cylchgrawn Viper Mae Mace The Great yn cario Caerdydd ar ei ysgwyddau gyda balchder, ac mae’r cariad amlwg hwn sydd ganddo tuag at ei ddinas yn cael ei ad-dalu ddengwaith gan ei gymuned leol.’

Content Box
Content Box

LLUN gan Marcus Georges

Content Box

O’n rhestr ‘Creadigion Du Cymru: Crëwyr Newid’, mae’r curadur, y beirniad a’r hanesydd celf, Osei Bonsu, o linach Prydeinig-Ghana sy’n wreiddiol o Gymru, wedi gwneud ei farc ym myd y celfyddydau gweledol. Mae Osei, sydd ar hyn o bryd yn Guradur Celf Ryngwladol yn Oriel y Tate Llundain, wedi datblygu prosiectau sy’n canolbwyntio ar hanesion celf rhyngwladol, gan gydweithio ag amgueddfeydd, orielau a chasgliadau preifat ar draws y byd.

Content Box
Content Box

Osei started his journey into the arts as a tour guide at the National Museum Cardiff, and has since developed numerous projects with a focus on African art, being an advocate for the representation of African art in museums and galleries.

Follow Osei on Instagram

Content Box

‘Rwyf am wthio er mwyn creu gofod lle gall fy nghymuned, merched ifanc Du, Mwslimaidd yn benodol, weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn fy lluniau.’ – Ash Suudy yng Nghylchgrawn Santes Dwynwen 

Mae Ash Suudy, sydd wedi’i chynnwys yn ein rhestr ‘Creadigion Du Cymru: Cadw Llygad Am y Rhain’, yn ffotograffydd ac yn unigolyn creadigol o Dde Cymru. Yn ddiweddar, cafodd ei chomisiynu gan BBC Arts, Ffilm Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i addasu ei phrosiect ffotograffig East in Colour a’i droi yn ffilm fer.

Content Box
Content Box

Mae East in Colour yn brosiect a luniwyd i ddangos harddwch y gymuned Gymreig-Somalïaidd ac i wrthweithio cynrychioliadau niweidiol o fenywod Mwslimaidd yn y cyfryngau. Mewn cyferbyniad â chefndir strydoedd Tre-biwt a Threlluest (Grangetown), mae menywod yn cael darlunio wedi eu gwisgo mewn pinciau llachar, porffor a gwyrdd y Diracs traddodiadol.

Content Box
Content Box

Mae’r lluniau’n cynrychioli ymdeimlad o gynhesrwydd a balchder, gan fod Ash wedi creu gofod lle gall menywod Cymeig-Somalïaidd fod, heb unrhyw ymddiheuriad, yn nhw eu hunain a dathlu croestoriadau eu diwylliant. Rydyn ni’n caru tynerwch y lluniau, eu tonau cynnes sydd wedi’u gorliwio, ac allwn ni ddim aros i weld beth fydd Ash yn ei wneud nesaf!

Content Box
Content Box

Dilynwch Ash ar Instagram.

Llwytho