Roedd Artists’ Playground’ yn breswyliad artist newydd sbon ac unigryw a gynhaliwyd yn Ne Korea ac a lwyfannwyd mewn partneriaeth rhwng National Theatre Wales a Performance Group TUIDA (De Korea). Dewiswyd y Cyfarwyddwr Artistig, Liara Barussi wedi i dros 150 o artistiaid o Gymru, De Korea, India a Japan wneud cais am gael bod yn rhan o’r prosiect.
Ffocws y cyfnod preswyl oedd cefnogi creu syniadau arloesol, arbrofion artistig a chydweithrediadau trawsddiwylliannol. Roedd y cyfnod preswyl yn archwilio amrywiol arferion artistig gan gynnwys theatr, coreograffi, ysgrifennu, celfyddyd fyw a gosod. Roedd yn gyfle i’r artistiaid hyn ddatblygu eu harferion ochr yn ochr ag eraill – gan gydweithio ar draws ffurf gelf ar syniadau newydd a rhannu’r canlyniadau. Treuliodd y grŵp amser hefyd yn myfyrio ar eu harferion cyfredol, ynghyd â thrafod ac ymchwilio i’r gwahanol ddulliau y mae artistiaid eraill yn eu harfer wrth greu gwaith newydd, yn amrywio o’r personol i’r diwylliannol.