Cyflwynodd sioe arddangos Jukebox Academi 2019 gyfres o weithiau creadigol gan ein hartistiaid ifanc datblygol. Dan gyfarwyddyd Liara Barussi, bu’r myfyrwyr yn gweithio gyda dawns, cerddoriaeth, theatr, set, gwisgoedd a drama er mwyn creu sioe arddangos amlddisgyblaethol oedd yn rhoi sylw i’w doniau unigol.
![](https://jukeboxcollective.com/wp-content/uploads/production/IMAGE-1-scaled.jpg)
![](https://jukeboxcollective.com/wp-content/uploads/production/IMAGE-1B-scaled.jpg)
Ysbrydolwyd perfformiad Gui Pinto gan y ffilm ddirgel ‘Bird Box’. Daethpwyd â’r naratif dramatig yn fyw trwy symudiadau, y set, y sain a’r gwisgoedd.
![](https://jukeboxcollective.com/wp-content/uploads/production/IMAGE-2-scaled.jpg)
“Un o’m llwyddiannau mwyaf oedd canu fy narn unigol yn y sioe ddiwedd blwyddyn. Fe wnes i berfformio o flaen cynulleidfa anhygoel, ac fe ges i gefnogaeth ryfeddol gan y tiwtoriaid.” Tianah Scanlon McKeith.
![](https://jukeboxcollective.com/wp-content/uploads/production/IMAGE-3.jpg)
Ysbrydolwyd darn personol Shakira Ifill gan draddodiadau diwylliannol Japan. Gan ddefnyddio propiau a gwisgoedd hardd, cludodd Shakira gynulleidfaoedd i Kyoto, gan asio’r traddodiadol gyda’r modern ?? .
![](https://jukeboxcollective.com/wp-content/uploads/production/IMAGE-4.jpg)
Perfformiodd Jo-el Bertram ar y llwyfan gyda’r estheteg leiaf posibl. Gwisg ddu, goleuadau tywyll, symudiad pwerus. Cymerodd ysbrydoliaeth o’r ffilm Karate Kid a chymhwysodd hyn i’w symudiadau. Archwiliodd hefyd y berthynas rhwng mentor a disgybl.
![](https://jukeboxcollective.com/wp-content/uploads/production/IMAGE-5.jpg)
Ail-greodd Renae Brito ‘Maddie Ziegler’ yn Sia’s ‘Big Girls Cry’. Yn ddewr iawn, dewisodd Renae ymgymryd â choreograffi eiconig Ryan Heffington, trwy gyfres emosiynol o ymadroddion wyneb oedd yn newid yn gyflym.
Creodd Patrik Gabco set ddireidus oedd yn amlygu ei arddull ‘popping’ arwyddnodol trwy berfformiad chwareus.
![](https://jukeboxcollective.com/wp-content/uploads/production/IMAGE-6.jpg)
Cyfarwyddwyd gan Liara Barussi
Coreograffi gan Reuel Elijah, Kate Morris, Ramlle Williams, Brooke Milliner, Georgia a Darnell Williams
Ysgrifennwyd a Chyfarwyddwyd y Darnau Drama gan Tristan Fynn-Aiduenu