Content Box

Aeth Jukebox Collective ati i guradu cyfres o berfformiadau yn tynnu sylw at unigolion creadigol Cymreig ar gyfer Gŵyl 2021. Mae’r cerddorion hyn yn dod ag amrywiaeth o synau a safbwyntiau newydd sy’n siapio diwylliant ieuenctid yng Nghymru. Dan gyfarwyddyd Liara Barussi mae’r perfformiadau’n rhoi llwyfan i artistiaid lleol, Aleighcia Scott, Reuel Elijah, FAITH a KING KHAN.

 

Youtube Video
Content Box
Content Box

Artist reggae Jamaicaidd o Gymru a aned yng Nghaerdydd yw Aleighcia Scott. Mae hi’n barod i ryddhau ei halbwm cyntaf y bu hi’n gweithio arni yn Jamaica yn ogystal â’r DU (gyda’r cynhyrchydd chwedlonol Rory Stonelove sydd wedi ymddangos yn ddiweddar ar y prosiect Beyoncé/Jay Z diweddaraf). Mae hi wedi ennill gwobrau amrywiol fel Artist Lleol Gorau Radio Caerdydd ac enillodd wobr MMG am y ‘Best Reggae Act’ ddwywaith, a bu’n perfformio hefyd ar lwyfan Glastonbury, camau BBC Introducing, llwyfannau rhyngwladol a datganiadau ochr yn ochr â’r Peckings Records chwedlonol a llawer mwy.

Youtube Video
Content Box
Content Box

Mae KINGKHAN yn rapiwr/cynhyrchydd o Gaerdydd sy’n dod â blas newydd i’r cylch presennol o rap Prydeinig. Ar ôl hunan-ryddhau ei albwm cyntaf ‘Lovesongs & Melodrama’ yn 2019, gwnaeth enw iddo’i hun ym myd cerddoriaeth De Cymru, gan ennill slotiau mewn gwyliau cerdd nodedig ar hyd a lled Cymru a’r DU. Mae ei arddull unigryw o gynhyrchu yn asio cerddoriaeth offerynnol fanwl â bachau a geiriau melodig sy’n aml yn rhychwantu gwahanol genres, gan barhau i gadw’i ddylanwadau ar ei lawes.

Youtube Video
Content Box
Youtube Video
Content Box
Content Box

Bu Jukebox Collective yn curadu cyfres o berfformiadau a ffilmiau byr sy’n tynnu sylw at bobl greadigol o Gymru ar gyfer Gŵyl 2021.

Gweithiodd Jukebox Collective gyda Jaffrin, bardd Cymreig, Bangladeshaidd, Mwslimaidd ac artist amlddisgyblaethol sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae ei dwy gerdd SKN & FAITH wedi eu dwyn yn fyw trwy ddelweddau barddonol gweladwy a ffilmiwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Cyfarwyddwyd gan Liara Barussi a’u steilio gan y steilydd Cymreig-Somalïaidd lleol, Asma Elmi.

 

 

Content Box
Content Box

Mae SKN yn tynnu tebygrwydd o deulu brenhinol Prydain, gan gwestiynu’r gyffelybiaeth rhyngddynt a’r ideolegau y mae teuluoedd o gefndiroedd lleiafrifol hiliol yn eu pleidio er mwyn cadw enw da yn eu cymuned. Mae’r cerddi byrion yn cwestiynu naratifau trefedigaethol a sut mae safonau harddwch gorllewinol wedi’u cynnwys yng nghymunedau De Asia.

 

“Wrth dyfu i fyny, roedd lliw croen yn bwnc trafod rheolaidd yn fy nheulu ac roeddwn i’n aml yn cael fy annog i gadw allan o’r haul oherwydd byddai fy nghroen yn tywyllu, gyda’r awgrym y byddai hynny’n fy ngwneud i’n llai atyniadol.”

Content Box
Content Box
Content Box

Mae’r gerdd yn tynnu ar brofiadau personol Jaffrin, ac yn eu plith daith i India, lle bu’n rhaid iddi wynebu realiti anesmwythol defosiwn y wlad i’r Frenhines Fictoria. Daeth y naratif hwn hyd yn oed yn fwy amlwg pan ymddangosodd erthygl yn y newyddion am Meghan Markle yn torri protocol brenhinol trwy groesi ei choesau yn hytrach nag eistedd ar oledd. Rhywbeth, yn yr un modd, roedd ei theulu hi ei hun yn gwgu arno ac a fu’n ysbrydoliaeth i ran o’r gerdd hon; “ai dyna’r hyn a ddigwyddodd pan wnaethom ni fabwysiadu eu hideoleg nhw”, mae hi’n gofyn.

Content Box
Content Box
Content Box

Dywed Jaffrin, “Rwy’ wedi teimlo’n unig yn fy nghroen ac yn fy enaid gynifer o weithiau ac rwy’n gwybod bod hynny’n beth trosglwyddadwy iawn – dwi jyst eisiau i bobl deimlo cysur wrth uniaethu, a hynny trwy fy ngwaith a deall nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.”

Content Box

Mae FAITH yn tynnu’n helaeth ar brofiadau Jaffrin ei hun, gan archwilio crefydd, defodau a’r brwydrau rhwng ‘deen’ a ‘dunya’ (crefydd a bywyd go iawn).

Content Box
Content Box

Roedd Gŵyl 2021 yn gydweithrediad rhwng Gŵyl y Llais/Festival of Voice, FOCUS Cymru, Lleisiau Eraill Aberteifi/Other Voices Cardigan a Gŵyl Gomedi Aberystwyth. Gyda’i gilydd fe wnaethant ddwyn ynghyd rhai o leisiau mwyaf taer a chyffrous ein dydd, o Gymru a thu hwnt. Y canlyniad oedd profiad digidol heb ei ail: cymysgedd bensyfrdanol o gomedi blaengar, sgyrsiau pryfoclyd, sioeau arddangos egnïol a setiau syfrdanol gafodd benawdau breision.

Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box

Castio ar gyfer rapiwr Caerdydd, Mace The Great, y ffilm weledol ddiweddaraf ar gyfer y trac “A Boogie”.

Youtube Video
Content Box
Content Box

“Nid oes i gasineb a phob math o ragfarn gartref yng Nghymru.” 

 

Mae ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru / Hate Hurts Wales’ yn ymgyrch fawr yn erbyn troseddau casineb a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021. Darparodd Asiantaeth Jukebox wasanaethau castio ar gyfer yr hysbyseb deledu gydag On Par productions, oedd yn rhoi sylw i set amrywiol o bobl fyddai’n adlewyrchu’r rheiny gafodd eu heffeithio gan droseddau casineb yng Nghymru.

 

Vimeo
Content Box

Crëwyd yr ymgyrch er mwyn codi ymwybyddiaeth ac adrodd am droseddau casineb gyda’r hysbyseb yn cael ei rhannu ar y teledu ac ar sianeli cyfryngau digidol a chymdeithasol.

 

 

Content Box
Content Box

Y 5 nodwedd allweddol a ddiogelir gan ddeddfau troseddau casineb yw hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol ac anabledd. Mae’r ymgyrch yn defnyddio senarios troseddau casineb i dynnu sylw at bob un o’r 5 nodwedd warchodedig, ac mae’r rhain yn seiliedig ar droseddau casineb erlyn gwirioneddol a nodwyd wrth weithio gyda’r CPS.

 

Cofnodwyd 4,023 o droseddau casineb ar draws pedair Ardal Heddlu Cymru, ac roedd 65% ohonynt yn droseddau casineb hiliol. Dywed y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, mai’r nod yw tynnu sylw at yr angen am i bawb sefyll gyda’i gilydd i gefnogi dioddefwyr troseddau casineb a sicrhau bod digwyddiadau’n cael eu riportio i’r heddlu neu Gofal Dioddefwyr Cymru. 

Content Box
Content Box
Content Box

“Nod yr ymgyrch yw ei gwneud hi’n gwbl glir bod casineb yn effeithio ar bob un ohonom ac yn tanseilio ein gwerthoedd cyffredin o ddynoliaeth gyffredin. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn sicrhau bod dioddefwyr a phobl oedd yno yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i riportio troseddau casineb, ble bynnag maen nhw’n eu gweld.”

Aeth y Gweinidog ymlaen: “Pan fyddwn yn sefyll gyda’n gilydd, yn unedig fel un gymuned, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth fynd i’r afael â throseddau casineb yn ein cymdeithas.” 

 

 

Content Box

Mae Renae Brito, un o ddoniau’r asiantaeth yn ymddangos fel y blaenwr yn y fideo gerddoriaeth ddiweddaraf “The first day” gan y Villagers a ffilmiwyd yn 2020 rhwng y cyfnodau clo. Mawlgan i’r cyswllt dynol, dan gyfarwyddyd Daniel Bereton.

 

 

Youtube Video
Content Box

“The First Day” yw’r record gyntaf i’w rhyddhau gan y band indie-werin Gwyddelig ers eu EP 2019 “The Sunday Walker”. Dywed O’Brien am y record, “Daeth yr awydd i ysgrifennu rhywbeth oedd mor hael i’r gwrandäwr ag yr oedd i mi fy hun. Weithiau gall y cyflyrau mwyaf ffwndrus gynhyrchu’r breuddwydion mwyaf ecstatig, ewfforig a dihangol.”

Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box

CLODRESTR

 

Director @danielpotential

DOP @simonplunketdop

Producer @__copsy

Prod co @anattic

Directors rep @freeagentuk

Styling and casting @_charlottejames_ and Lucy Broome

Art Director @missmildute

Actors

Renae Brito

Renae’s agent @jukebox_collective

Amelia

Erin Scott + Willow

Christine Leathley 

 

1st AD @caddyisplank

PA @ellie_devereux

1st AC @mattfarrant

2nd AC @mrjamesstier

Grip James McCallister

Camera Trainee @lemarmaynard

Playback @mattipage

Stunts Jack Stockdale

Choreography @jasminsaulo

HMU @becca.anderton

Commissioner John Moule

Grade @dayofthejack

VFX Jack Brown

Additional filming Bob Gallagher

Film @kodak

Film processing @cinelablondon

 

Content Box

Dewiswyd Jodelle Douglas, un o dalentau’r asiantaeth, ar gyfer yr ymgyrch eiconig ‘Move your Lee’.

Brand Americanaidd o jîns denim yw Lee, ac mae’n un o’r cwmnïau dillad mwyaf yn y byd. Roedd yr ymgyrch ‘Move your Lee’ yn neges bwerus flaengar sy’n parhau i dyfu bob tymor. Saethwyd yr hysbyseb hon yn Llundain i ddangos sut y gall dillad rymuso symudiadau mudiadau bob dydd.

 

Vimeo
Content Box

I ddathlu diwylliant Cymru, cynlluniodd Liara Barussi ddarn dawns pwrpasol, egnïol iawn, ‘Toy Story’ oedd yn rhoi llwyfan i ddawnswyr yr asiantaeth, sef Kate Morris a Reuel Elijah wrth groesawu’r Tywysog Harry a Meghan Markle ar eu hymweliad swyddogol â phrifddinas Cymru.

Youtube Video
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box

Roedd Night at the Casablanca yn un o’r perfformiadau agoriadol yn rhaglen 10fed pen-blwydd Canolfan Mileniwm Cymru. Daeth y perfformiad â chlwb eiconig Casablanca yn ôl yn fyw a hynny trwy gyfres o straeon a cherddoriaeth fyw oedd yn dathlu treftadaeth gerddorol gyfoethog y gymuned leol.

Comisiynwyd Liara Barussi i gastio, cyfarwyddo a chynllunio’r ddawns. Roedd y cast yn cynnwys y dawnswyr Naomi Patterson, Reuel Bertram a Ramelle Williams sy’n cael eu cynrychioli ar asiantaeth Jukebox Collective.

 

Content Box
Content Box

Roedd The Casablanca Club yn gyn-leoliad cerddoriaeth yn Tiger Bay, Caerdydd, cyrchfan a ddaeth yn dirnod yn Nhre-biwt rhwng 1965 – 1985. Dechreuodd y clwb ei fywyd fel Capel Bethel ar Sgwâr Mount Stuart ac roedd yn un o glybiau nos olaf a mwyaf drwg-enwog yr ardal cyn ei ddymchwel yn yr 1980au i wneud lle i faes parcio. Dyma un o’r lleoliadau cyntaf yng Nghaerdydd i chwarae ‘house music’ a ‘reggae’ gyda pherfformiadau gan artistiaid fel Pablo Gad a Maxi Priest.

 

Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box

“Nid yw Ardal y Dociau (Docklands), a bod yn fanwl gywir, yn perthyn i unrhyw wlad — neu’n hytrach mae’n perthyn i bob gwlad.” Gellir dadlau bod Caerdydd yn un o’r dinasoedd amlddiwylliannol cyntaf yn y byd. Fel dinas â phorthladd, mae bob amser wedi denu ystod amrywiol o bobl i’w galw’n gartref. Ymhell cyn i’r term am amrywiaeth ethnig gael ei fathu hyd yn oed, roedd Tre-biwt yn gartref i gymunedau o bob cornel o’r byd, yn gartref i 57 o genhedloedd a 50 o ieithoedd. Cymuned aml-hiliol, aml-ffydd, aml-ethnig, glos sydd wedi cyfrannu’n barhaus at ddychymyg diwylliannol Caerdydd, Cymru, Prydain a’r byd.

Roedd y cynhyrchiad yn ail-adroddodd cyfnod pwysig yn hanes Tre-biwt ynghyd â stori dociau Caerdydd, ardal sy’n cael ei galw fel rheol yn ‘Tiger Bay.’

 

Lluniau archif o Paul Pilgroy: A Photographic History of Black Britain

Content Box

Gwynfyd y ddawns fu’r cyfrwng i ysbrydoli’r darlledwr o Gymru, S4C, dros dymor yr ŵyl i gomisiynu cwmnïau dawns blaenllaw Cymru i ymddangos yn eu perfformiadau Nadolig. Fe wnaethon ni gastio’r talentau newydd, Jo-el Bertram, Shakira Ifill a Renae Brito a chreu perfformiad pwrpasol ar thema’r Nadolig.

Content Box
Content Box

Anogwyd ein talent datblygol i rannu sut mae dawns wedi effeithio ar eu bywydau a’r hyn roedden nhw wedi’i fwynhau ynglŷn â bod yn rhan o’u perfformiadau teledu cyntaf:

Meddai Shakira: “Yr effaith gadarnhaol y mae dawns wedi’i chael ar fy mywyd yw ei bod yn rhoi nid yn unig gydbwysedd i mi ar gyfer fy arholiadau TGAU sydd ar ddod ond hefyd brofiad gwych o ddysgu ac addysgu fel galwedigaeth yn y sector hwnnw. Roedd bod yn rhan o berfformiad Nadolig S4C yn fuddiol iawn o ran datblygu fy mhrofiad o ddawns ar ffilm ac mae wedi fy ngalluogi i archwilio fy nghymeriad ymhellach.

Content Box

Meddai Renae: “Rwy’ i wrth fy modd yn dawnsio oherwydd mod i’n teimlo’n wirioneddol rydd a chyffyrddus! Mae’n cael effaith gadarnhaol ar y diwrnod ac rydych chi’n anghofio’n llwyr am y pethau drwg! Mae Jukebox yn helpu i ddatblygu fy hyder, ac rydw i wrth fy modd yng nghwmni’r tîm cyfan!”

Content Box

Dywedodd Jo-el ei fod wedi mwynhau gweithio gyda S4C. “Roedd bod ar y set gyda S4C yn anhygoel. Fe ofynnon nhw i ni archwilio ein golygfa’n fwy a rhoi inni deimlad y Nadolig. Roedd hyn yn cŵl oherwydd roeddwn i’n dychmygu ’mod i’n rhywun oedd yn gwylio’r teledu ac fe fyddem ni’n edrych fel teulu sy’ methu aros am y Nadolig. “

Youtube Video
Content Box

Profiad theatr pwrpasol wedi’i greu ar gyfer ocsiwn gelf unigryw yn Aynhoe Park House.

Mae Farnon & Lake yn Arwerthwyr Pwrpasol sy’n arloesi ym maes digwyddiadau unigryw ac anarferol mewn perthynas â digwyddiadau ocsiwn celf. Comisiynwyd asiantaeth Jukebox Collective i gyfarwyddo, cynllunio a chynhyrchu darn symudiadau theatrig a ddaeth â drama i’w digwyddiad lansio ‘The Sculpture Auction’ a gyflwynodd dros 160 o weithiau cerfluniol.

Content Box
Content Box

Liara Barussi fu’n gyfrifol am gyfarwyddo’r darn gyda’r artistiaid symudiadau Jodelle Douglas a Maren Ellerman a buom yn cydweithio gyda’r dylunydd gwisgoedd Sabrina Henry er mwyn dod â’r theatreg i bob elfen o’r perfformiad.

Content Box
Content Box

Trochodd The Auction bob un o’r gwesteion ym myd celf a’r theatr, ac roedd hyn wedi’i dynnu mor bell o’r cysyniad traddodiadol o arwerthiant. ‘I ni, nid gwerthiant i’r cynigydd uchaf yn unig yw ocsiwn. Mae’n theatr, gwefr yr anhysbys. Credwn fod ocsiwn yn ddigwyddiad na ddylid ei golli.’ Farnon & Lake.

 

Content Box
Content Box
Content Box

Tynnwyd pob llun gan Jakub Koziel a’u steilio gan Sabrina Henry.

Llwytho