Work Cover

perfformiadau nadolig s4c

Content Box

Gwynfyd y ddawns fu’r cyfrwng i ysbrydoli’r darlledwr o Gymru, S4C, dros dymor yr ŵyl i gomisiynu cwmnïau dawns blaenllaw Cymru i ymddangos yn eu perfformiadau Nadolig. Fe wnaethon ni gastio’r talentau newydd, Jo-el Bertram, Shakira Ifill a Renae Brito a chreu perfformiad pwrpasol ar thema’r Nadolig.

Content Box
Content Box

Anogwyd ein talent datblygol i rannu sut mae dawns wedi effeithio ar eu bywydau a’r hyn roedden nhw wedi’i fwynhau ynglŷn â bod yn rhan o’u perfformiadau teledu cyntaf:

Meddai Shakira: “Yr effaith gadarnhaol y mae dawns wedi’i chael ar fy mywyd yw ei bod yn rhoi nid yn unig gydbwysedd i mi ar gyfer fy arholiadau TGAU sydd ar ddod ond hefyd brofiad gwych o ddysgu ac addysgu fel galwedigaeth yn y sector hwnnw. Roedd bod yn rhan o berfformiad Nadolig S4C yn fuddiol iawn o ran datblygu fy mhrofiad o ddawns ar ffilm ac mae wedi fy ngalluogi i archwilio fy nghymeriad ymhellach.

Content Box

Meddai Renae: “Rwy’ i wrth fy modd yn dawnsio oherwydd mod i’n teimlo’n wirioneddol rydd a chyffyrddus! Mae’n cael effaith gadarnhaol ar y diwrnod ac rydych chi’n anghofio’n llwyr am y pethau drwg! Mae Jukebox yn helpu i ddatblygu fy hyder, ac rydw i wrth fy modd yng nghwmni’r tîm cyfan!”

Content Box

Dywedodd Jo-el ei fod wedi mwynhau gweithio gyda S4C. “Roedd bod ar y set gyda S4C yn anhygoel. Fe ofynnon nhw i ni archwilio ein golygfa’n fwy a rhoi inni deimlad y Nadolig. Roedd hyn yn cŵl oherwydd roeddwn i’n dychmygu ’mod i’n rhywun oedd yn gwylio’r teledu ac fe fyddem ni’n edrych fel teulu sy’ methu aros am y Nadolig. “

Youtube Video
Llwytho