Production Cover

arloeswyr dawns ddu

Content Box

Ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, buom yn dathlu ein hoff arloeswyr dawns – o ddyfeiswyr ‘locking’ i’r rhai a luniodd ddyfodol dawns. Dewch i adnabod y rhestr anhygoel o’r bobl hynny fu’n paratoi’r ffordd i ni heddiw!

Content Box
Content Box

Y Brodyr Nicholas

Daeth Fayard & Harold yn un o actau dwbl mwyaf poblogaidd canol yr 20fed ganrif. Roedden nhw’n rhagori mewn amrywiaeth o dechnegau, a dawnsio tap yn benodol.

Content Box
Content Box

James Brown              

Hyrwyddwr cerddoriaeth ffync a ffigwr o bwys yng ngherddoriaeth a dawns yr 20fed ganrif.

Content Box
Content Box

Gregory Hines                   

Un o’r dawnswyr tap enwocaf erioed. Bu Hines yn serennu mewn mwy na deugain o ffilmiau a gwnaeth ei farc ar Broadway hefyd yn ystod ei oes.

Content Box
Content Box

The Black Resurgents

Grwpiau Arloesol Boogaloo & Stepping rhwng y 1960’au – 1970’au yn Oakland.

Content Box
Content Box

The Lockers        

Yn derbyn y clod am ddyfeisio ‘Locking’ yn y 1970au. Ymhlith yr aelodau roedd Don “Campbellock” Campbell & Greg “Campbellock Jr.”

Content Box
Content Box

Geoffrey Holder                   

Roedd Geoffrey Holder, yr eicon diwylliannol, yn ddawnsiwr, coreograffydd, actor, dylunydd ac arlunydd; fe’i ganed yn Nhrinidad ac roedd yn gweithio yn Efrog Newydd.

Content Box
Content Box

Tyrone Proctor          

Dawnsiwr ‘soul train’ yn y 1970au ac arloeswrwaacking’.

Content Box
Content Box

The Black Messengers                      

Wedi’i ffurfio ym 1972, fe wnaeth y grŵp arloesi techneg ‘Boogalooo “posing hard” a fyddai’n datblygu i fod yn ‘popping.

Content Box
Content Box

Alvin Ailey     

Dawnsiwr, cyfarwyddwr, coreograffydd, ac actifydd a sefydlodd Theatr Ddawns Americanaidd Alvin Ailey ym 1958.

Content Box
Content Box

Pearl Primus                      

Cenhadwr dros y ddawns Affricanaidd. Roedd hi’n ddawnswraig, coreograffydd ac anthropolegydd a chwaraeodd ran bwysig yn y dasg o gyflwyno dawns Affricanaidd i gynulleidfaoedd Americanaidd.

Content Box
Content Box

Josephine Baker                          

Dawnswraig a chantores Ffrengig a aned yn America ac yn un oedd yn symbol o harddwch a bywiogrwydd diwylliant Du America; ysgubodd ddinas Paris yn y 1920au.

Content Box
Content Box

Elroy Josephz                     

Dawnsiwr, actor, cynhyrchydd ac athro Jamaicaidd-Brydeinig. Chwaraeodd ran ganolog yn y dasg o newid sut mae dawns fodern yn cael ei haddysgu a’i pherfformio.

Content Box
Content Box

Katherine Mary Dunham     

Dawnswraig, coreograffydd, awdures, addysgwraig, anthropolegydd, ac actifydd cymdeithasol. Cafodd ei galw’n “fatriarch a mam frenhines dawns Ddu.”

Content Box
Content Box

Berto Pasuka            

Sylfaenydd Les Ballet Negres, cwmni dawns Du cyntaf Ewrop yn 1946.

Content Box
Content Box

Buddy Bradley                 

Dawnsiwr a choreograffydd yn y 1930au ac yn ddiweddarach. Ef oedd y dawnsiwr Du cyntaf i lunio coreograffi sioe o ddawnsiwyr gwynion i gyd yn Llundain.

Content Box
Content Box

The Electric Boogaloos                 

Fe’i sefydlwyd gan Boogaloo Sam yn Fresno, California ym 1977. Ymhlith yr aelodau roedd Poppin Pete, Skeeter Rabbit a Sugar Pop.

Content Box
Content Box

I Dance Jazz (IDJ)                      

Cafodd y grŵp hwn ei ffurfio yn y 1980au ac roedd y dawnswyr hyn o’r DU yn arloeswyr mewn arddull dawns jazz oedd yn asio traddodiadau jazz gwerinol, tap, bale, dawnsfeydd India’r Gorllewin ac Affrica. Câi’r rhain eu hymarfer yn bennaf gan ddawnswyr gwrywaidd Du o gymunedau mewnfudwyr tlawd ar draws y DU, ac roedden nhw’n adnabyddus am eu gwaith troed cywrain, triciau anhygoel, a’u hegni diflino.

Llwytho