Production Cover

q&a with joey lit

Content Box

Fel rhan o’n taith ar-lein i Ghana, buom yn cynnal sgwrs gyda Joey Lit – Artist, Dylunydd, Cyfarwyddwr Creadigol, Dyngarwr, Peiriannydd Trydanol a sylfaenydd Free The Youth Ghana. Mae Free The Youth Ghana yn grŵp rydym ni’n ei edmygu; maen nhw’n arwain y ffordd, yn ymgysylltu â’r alltudion ac yn cyflwyno llun o Affrica sy’n herio ystrydebau. Mae eu label dillad stryd cwlt wedi ennill sylw yn lleol ac yn rhyngwladol, ac mae eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn mynd â nhw ar daith gyffrous, gan rymuso ieuenctid ar draws y byd.

>> INSERT VIDEO HERE <<

Buom yn siarad â Joey Lit am sut mae’r grŵp yn grymuso ac yn addysgu pobl ifanc, gan roi’r sgiliau iddyn nhw ddatblygu’n artistig a gweithio tuag at yrfaoedd yn y celfyddydau, yn ogystal â gwerthoedd gwaith cymunedol a chydweithredol. Fel y rhai sy’n cymryd risg, mae artistiaid ifanc yn Ghana yn cychwyn symudiadau heb aros am ddilysiad nac arweiniad, ond yn lle hynny maen nhw’n defnyddio adnoddau cymunedol ac ar-lein i arwain ei gilydd, rhannu gwybodaeth a chreu gwerth am eu gwaith. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ymhellach y cysylltiadau rhwng Cymru a Ghana!

Llwytho