Work Cover

night at the casablanca

Content Box

Roedd Night at the Casablanca yn un o’r perfformiadau agoriadol yn rhaglen 10fed pen-blwydd Canolfan Mileniwm Cymru. Daeth y perfformiad â chlwb eiconig Casablanca yn ôl yn fyw a hynny trwy gyfres o straeon a cherddoriaeth fyw oedd yn dathlu treftadaeth gerddorol gyfoethog y gymuned leol.

Comisiynwyd Liara Barussi i gastio, cyfarwyddo a chynllunio’r ddawns. Roedd y cast yn cynnwys y dawnswyr Naomi Patterson, Reuel Bertram a Ramelle Williams sy’n cael eu cynrychioli ar asiantaeth Jukebox Collective.

 

Content Box
Content Box

Roedd The Casablanca Club yn gyn-leoliad cerddoriaeth yn Tiger Bay, Caerdydd, cyrchfan a ddaeth yn dirnod yn Nhre-biwt rhwng 1965 – 1985. Dechreuodd y clwb ei fywyd fel Capel Bethel ar Sgwâr Mount Stuart ac roedd yn un o glybiau nos olaf a mwyaf drwg-enwog yr ardal cyn ei ddymchwel yn yr 1980au i wneud lle i faes parcio. Dyma un o’r lleoliadau cyntaf yng Nghaerdydd i chwarae ‘house music’ a ‘reggae’ gyda pherfformiadau gan artistiaid fel Pablo Gad a Maxi Priest.

 

Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box

“Nid yw Ardal y Dociau (Docklands), a bod yn fanwl gywir, yn perthyn i unrhyw wlad — neu’n hytrach mae’n perthyn i bob gwlad.” Gellir dadlau bod Caerdydd yn un o’r dinasoedd amlddiwylliannol cyntaf yn y byd. Fel dinas â phorthladd, mae bob amser wedi denu ystod amrywiol o bobl i’w galw’n gartref. Ymhell cyn i’r term am amrywiaeth ethnig gael ei fathu hyd yn oed, roedd Tre-biwt yn gartref i gymunedau o bob cornel o’r byd, yn gartref i 57 o genhedloedd a 50 o ieithoedd. Cymuned aml-hiliol, aml-ffydd, aml-ethnig, glos sydd wedi cyfrannu’n barhaus at ddychymyg diwylliannol Caerdydd, Cymru, Prydain a’r byd.

Roedd y cynhyrchiad yn ail-adroddodd cyfnod pwysig yn hanes Tre-biwt ynghyd â stori dociau Caerdydd, ardal sy’n cael ei galw fel rheol yn ‘Tiger Bay.’

 

Lluniau archif o Paul Pilgroy: A Photographic History of Black Britain

Llwytho