Mae ‘Disjointed’ yn stori am Ddoli weindio fecanyddol sy’n cael ei gweithredu gan y Rheolwyr, sy’n derbyn eu cyfarwyddiadau gan ‘The System’. Hi yw’r ddiddanwraig berffaith, bob amser yn gwenu ond gyda thristwch dwfn i’w weld yn ei llygaid. Mae hi’n hiraethu am ryddid, i symud a mynegi ei hun ac i ddarganfod ble mae hi’n perthyn. Mae’r darn, sy’n cyffwrdd â syniadau o gyswllt a datgyswllt, rheolaeth a’r rolau sy’n cael eu chwarae gennym mewn cymdeithas, yn ein cymell i ystyried goblygiadau technolegau deallusrwydd artiffisial (AI) newydd a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddynol.
Dylanwadwyd gan ffotograffiaeth hyfryd Tim Walker a’i asio â dull arwyddnodol cynyrchiadau Jukebox Collective.
Cyfarwyddwyd gan Liara Barussi
Perfformiwyd gan Jodelle Douglas, Sharifa Tonkmor a Kate Morris
Coreograffi gan Liara Barussi
Dyluniad Set gan Phillip Cooper
Coreograffi Ychwanegol gan Jodelle Douglas, Kate Morris a Sharifa Tonkmor
Cyflwynwyd yn wreiddiol ar Lwyfan Dawns Cymru yn 2016