‘Rwyf am wthio er mwyn creu gofod lle gall fy nghymuned, merched ifanc Du, Mwslimaidd yn benodol, weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn fy lluniau.’ – Ash Suudy yng Nghylchgrawn Santes Dwynwen
Mae Ash Suudy, sydd wedi’i chynnwys yn ein rhestr ‘Creadigion Du Cymru: Cadw Llygad Am y Rhain’, yn ffotograffydd ac yn unigolyn creadigol o Dde Cymru. Yn ddiweddar, cafodd ei chomisiynu gan BBC Arts, Ffilm Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i addasu ei phrosiect ffotograffig East in Colour a’i droi yn ffilm fer.
Mae East in Colour yn brosiect a luniwyd i ddangos harddwch y gymuned Gymreig-Somalïaidd ac i wrthweithio cynrychioliadau niweidiol o fenywod Mwslimaidd yn y cyfryngau. Mewn cyferbyniad â chefndir strydoedd Tre-biwt a Threlluest (Grangetown), mae menywod yn cael darlunio wedi eu gwisgo mewn pinciau llachar, porffor a gwyrdd y Diracs traddodiadol.
Mae’r lluniau’n cynrychioli ymdeimlad o gynhesrwydd a balchder, gan fod Ash wedi creu gofod lle gall menywod Cymeig-Somalïaidd fod, heb unrhyw ymddiheuriad, yn nhw eu hunain a dathlu croestoriadau eu diwylliant. Rydyn ni’n caru tynerwch y lluniau, eu tonau cynnes sydd wedi’u gorliwio, ac allwn ni ddim aros i weld beth fydd Ash yn ei wneud nesaf!
Dilynwch Ash ar Instagram.