Production Cover

dawnsiwr ifanc y BBC

Content Box

Cynhaliwyd y gystadleuaeth gyntaf erioed yn y gyfres Dawnsiwr Ifanc y BBC Young Dancer gan y BBC yn 2015. Roedd yn dilyn ymchwil naw mis am y dawnswyr mwyaf dawnus ac ymroddedig yn y DU rhwng 16 a 20 oed, a hynny mewn pedwar categori; Dawns Bale, Cyfoes, ‘Hip Hop’ a Dawns De Asia.

Yn y Rownd Derfynol mae’r enillwyr o bob categori yn perfformio, ochr yn ochr â dau ‘gerdyn gwyllt’ ychwanegol, am y teitl cyffredinol, o flaen panel o feirniaid sy’n cynnwys rhai o’r enwau mwyaf o fyd y ddawns. Mae BBC Young Dancer, ynghyd â BBC Young Musician, yn ganolog i gefnogaeth y BBC i’r celfyddydau a’i ymrwymiad i ddatblygu talent newydd.

Yma, edrychwn yn ôl ar ein teithiau gyda Dawnsiwr Ifanc y BBC/ BBC Young Dancer a straeon ein myfyrwyr talentog a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol.

Content Box
Content Box

Yn 2015, cyrhaeddodd Sharifa Tonkmore y rownd derfynol yn y categori ‘Hip Hop’ gyda’i pherfformiad dull rhydd unigryw. Y Cyfarwyddwr Artistig, Liara Barussi oedd mentor y categori ‘Hip Hop’, a bu’n darparu cefnogaeth ac anogaeth i Sharifa trwy gydol y broses.

>> https://www.bbc.co.uk/programmes/p02prphf

Yn 2017 a 2019, fe gyrhaeddodd Kate Morris rownd derfynol Dawns y Stryd, gan greu argraff ar feirniaid gyda’i pherfformiad theatrig oedd yn dal ei steil haniaethol o symudiadau.

Content Box
Content Box

> https://www.bbc.co.uk/programmes/p078tsvz

 

Yn 2017, Jodelle Douglas oedd enillydd y categori Dawnsio Stryd a aeth ymlaen i berfformio yn y rowndiau terfynol yn theatr Saddler’s Wells.

Content Box
Content Box
Llwytho