Production Cover

of us

Content Box

Jukebox Collective yn cyhoeddi ei ran yn arddangosfa Beyond the Bassline yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain. Fel eu partner yng Nghymru, mae eu ffilm Of Us, yn rhannu persbectif difesur ar y dasg o archwilio 500 mlynedd o gerddoriaeth Ddu ym Mhrydain.

Mae Beyond the Bassline (Ebrill 26 – Awst 26, 2024) yn nodi moment hanesyddol gan mai dyma’r arddangosfa fawr gyntaf i ddogfennu taith gerddorol gyfoethog pobl Affricanaidd a Charibïaidd ym Mhrydain. Trwy arddangosfa o archifau sain, arteffactau, perfformiadau, a chyflwyniadau amlgyfrwng, mae’r arddangosfa’n archwilio’r bobl, y gofodau a’r genres sydd wedi trawsnewid tirwedd cerddoriaeth Prydain, gan ymchwilio i effaith cerddorion, pobl greadigol ac entrepreneuriaid Du Prydeinig ar gerddoriaeth boblogaidd ers yr 16eg ganrif.

Mae Of Us (2024), cynhyrchiad Jukebox Collective, a gomisiynwyd gan y Llyfrgell Brydeinig, yn cael ei gyflwyno yng ngofodau “ymyriadau/interruption” yr arddangosfa. Liara Barussi yw cyfarwyddwr a choreograffydd y ffilm ac fe’i ffilmiwyd yn Ne Cymru; mae’r ffilm yn talu teyrnged i dreftadaeth un o gymunedau Du hynaf y DU sydd wedi’i lleoli yn Tiger Bay, Caerdydd. Trwy ddawns a symudiad, mae’n myfyrio ar themâu ymfudo, hunaniaeth a’r cysylltiad hynafiadol parhaus rhwng y corff a’r cof.

 

“Mae Of Us yn teithio i isleisiau ein moroedd, gan blethu straeon am ymfudo â symbolaeth gyffredinol dŵr. Gan adleisio cysyniadau Black Aquatic a Tidalectics, mae’r ffilm yn cyfosod yr hylifol a’r sefydlog” meddai Cyfarwyddwr Artistig Jukebox Collective, Liara Barussi. 

 

Caiff y ffilm fer ei harddangos yng ‘ngofod y cefnfor/ocean space’ a bydd yn cynnig profiad gweledol a chlywedol ymdrwythol i ymwelwyr. Mae’n cynnwys seinwedd gan lwyfan curadurol Touching Bass o dde Llundain gyda’r gwaith steilio gan Lauren Anne Groves ynghyd â darnau gan frandiau sy’n eiddo i Bobl Dduon, ac yn eu plith ceir Ahluwalia a Jawara Alleyne. Mae’r ffilm hefyd yn rhoi llwyfan i gast o dalent ifanc Du Cymru o raglen ‘datblygu artistiaid’ y sefydliad.

 

“Mae’n anrhydedd i ni gynrychioli Cymru yn yr arddangosfa hanesyddol hon; mae’r ffilm yn talu teyrnged i gymunedau Duon Cymru sy’n aml yn cael eu hanwybyddu a’u tangynrychioli. Tynnir sylw at eu treftadaeth a’u diwylliant gan eu bod yn croestorri â naratif ehangach cerddoriaeth Ddu Brydeinig.” – Liara Barussi

 

Wedi’i churadu gan Dr Aleema Gray mewn cydweithrediad â Dr Mykaell Riley, mae Beyond the Bassline yn addo ehangu dealltwriaeth y gynulleidfa o gerddoriaeth Ddu Brydeinig a’i safle oddi mewn i dreftadaeth gerddorol Prydain.

Content Box
Content Box

Am yr Arddangosfa

 

I gael gwybodaeth bellach am yr arddangosfa ewch i beyondthebassline.seetickets.com

Mae tocynnau ar gael i’w prynu ar-lein gyda dyddiau Talu’r Hyn a Allwch ar gael ar ddydd Mercher cyntaf pob mis.

 

Content Box

Credydau Ffilm Film Credits

 

Cyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Symud: Liara Barussi
Cynhyrchydd: Lauren Patterson
Cyfarwyddwr ffotograffiaeth: Nathan O’Kelly
Dylunio Sain: Touching Bass
Steilydd: Lauren Anne Groves
Ymgynghorydd Creadigol: Leyman Lahcine
Cast Arweiniol: Gui Pinto, Venice Williams, Monet Williams
Cast: Jukebox Academy – Teaghan Scanlon, Karim Mohamed, Fatima Jarju, Ayoola Wonder,
Elizabeth Oredola, Perez Rodriques, Rio Rodriques, Quincy Chambers, Akeylah Hinton,
Blessing Oredola, Sheighley-Sky
Cynorthwywyr Symudiadau: Darnell Williams, Naomi Ferne, Patrik Gabco, Millie Campion
Steilydd Gwallt: Trent Jackson
Barbwr: Isaac Omoyibo
Golygydd: Pawel Achtelik
Lliwiwr: Sharon Chung
Dylunio Graffig: Henny Valentino

Content Box

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu gyfweliad, cysylltwch os gwelwch yn dda â 

 

Lauren Patterson

Cyfarwyddwr Strategol, Jukebox Collective

Samandal Sidig

Cydlynydd Marchnata, Jukebox Collective

Llwytho