Ar Zoom, cynhaliwyd premier preifat gennym ar gyfer ffrindiau a theulu, ac yna fersiwn gyhoeddus o’r sesiwn arddangos a fynychwyd gan lawer o greadigion lleol ynghyd â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Bu’r arddangosfa yn llwyddiant ysgubol, ac roedd yn cynnwys perfformiadau byw a sawl premier o fideos myfyrwyr yr Academi, yn ogystal â rhoi llwyfan i westai arbennig, sef yr artist cerdd lleol, B Written. Drwy gydol y digwyddiad, roedd y gefnogaeth galonogol yn amlwg yn yr holl sylwadau a dderbyniwyd gan y mynychwyr yn y blwch sgwrsio a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol. Ymhlith rhai o’n hoff sylwadau mae:
“Llongyfarchwch eich holl griw talentog ar eu gwaith neithiwr. Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig ac roedd yr ystod o ffurfiau celf yn rhywbeth arall. ”- Michael Waters, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
“Noson anhygoel gyda Jukebox Collective – rydych chi’n ysbrydoliaeth bobl! Gwnaeth eich gwaith i mi wenu a chrïo, ac o’r fath dalent! Wedi gwirioni ar bob eiliad.” – Catherine Young, Dawns i Bawb