Content Box

Oherwydd pandemig COVID19, ataliwyd ein gweithgareddau wyneb yn wyneb a symudwyd ein dosbarthiadau ar-lein, rhywbeth nad oeddem erioed wedi’i wneud o’r blaen. Gwyddom am yr effaith gadarnhaol mae ein gwersi yn ei chael ar les ein tiwtoriaid a’n myfyrwyr, gyda llawer ohonynt yn dod o gefndiroedd difreintiedig sydd mewn perygl penodol o effeithiau’r pandemig. Felly, roedd yn hanfodol ein bod yn cadw ein cymuned yn brysur ac yn gysylltiedig yn ystod cyfnodau anodd. Roedd ein dosbarthiadau ar-lein yn rhad ac am ddim i’w mynychu; ac yn eu plith roedd y Clwb Plant, Cysyniadau/Concepts, dosbarthiadau agored a mwy ar Zoom ac Instagram Live.

 

Content Box
Content Box

Er mwyn parhau â’r dosbarthiadau ar-lein hyn, gan sicrhau bod ein tiwtoriaid ymroddedig yn cael eu talu a’r gwersi yn cael eu cadw am ddim i fyfyrwyr, roedd angen cymorth ychwanegol arnom. Felly lansiwyd ymgyrch cyllido torfol gennym oedd yn rhoi sylw i’n cymuned gan alw ar ein cefnogwyr i gyfrannu’n ariannol er mwyn helpu ein dosbarthiadau ar-lein.

Youtube Video
Content Box

Bu’r ymgyrch yn llwyddiant, a llwyddwyd i godi digon o arian i barhau i weithio ar-lein yn ystod y pandemig a thu hwnt, yn ogystal â llwyddo i gyfateb rhoddion gan gefnogwyr hael! Dyma beth oedd gan rai o’n tiwtoriaid a’n myfyrwyr i’w ddweud am ddosbarthiadau ar-lein:

Content Box
Content Box

“Mae dosbarthiadau ar-lein yn fy helpu gryn dipyn i ddatblygu fy sgiliau a’m hyder. Rwy’n meddwl ei bod hi’n anhygoel sut y gallwn ni i gyd ddal i gyfathrebu er ein bod ar wahân.” – Chase, myfyriwr yn yr Academi

 

“Rwy’n hoff iawn o ddosbarthiadau ar-lein oherwydd ei fod yn ofod diogel lle gallwch ryngweithio â’ch ffrindiau. Maen nhw’n ein cadw ni’n hynod iach ac maen nhw wir wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau perfformio a dawnsio. Mae Jukebox yn un teulu mawr.” – Leila, myfyriwr yn yr Academi

 

“Mae’r platfform hwn yn caniatáu i bobl ddod o hyd iddyn nhw eu hunain; gallaf weld gymaint y mae hyn yn cael ei werthfawrogi gan y myfyrwyr sy’n dod i’m dosbarthiadau cysyniad. Mae’r ymdeimlad hwnnw o berthyn a chael y gymuned honno yn gefn yn dod â’r gorau allan o bobl.” – Ramelle, Tiwtor

 

Content Box

“Mae Jukebox Collective yn hwb anhygoel o’r holl bethau hynny all helpu i lunio meddyliau llawer sydd heb wybod bod ganddyn nhw’r dalent honno.” 

Cafodd Reuel Elijah a Jo-el Bertram, aelodau o Jukebox Collective, sylw mewn stori newyddion ar BBC Wales Today ar effaith pandemig COVID-19 ar sector y celfyddydau yng Nghymru, stori oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyllid yn y dyfodol er mwyn i’r diwydiant allu goroesi. Bu Reuel a Jo-el yn trafod yr effaith y mae Jukebox yn ei chael ar y gymuned leol trwy ddarparu cyfleoedd tuag at yrfa yn y celfyddydau a sut mae ein gweithgareddau’n ceisio newid bywydau pobl ifanc.

Youtube Video
Content Box

For Butetown Carnival 2019, Cardiff’s legendary celebration of Afro-Caribbean culture running since the 1960’s, we curated a special energetic dance performance. Holding the flags of carnival, our students proudly took part in the weekend of celebrations.

Content Box
Content Box

On the performance, Jukebox Academy student Akeylah Hinton said “One of my favourite memories is dancing at Butetown Carnival. It’s where my family are from and I felt proud to have both my grandparents watch me dance in a place with so many memories for them.”

Content Box
Content Box

“Byddwch yn sicr.”

Yn ‘Black History Month: Tre-biwt’s vibrant community with deep roots’ rhoddodd Mo Jannah sylw i Jukebox Collective fel ffigwr allweddol sy’n arwain cymuned Ddu lewyrchus Cymru. Pan symudodd Mo i Gaerdydd o Birmingham 14 mlynedd yn ôl roedd ganddo ddisgwyliadau o sut le fyddai Cymru, ond doedd e ddim yn disgwyl dod o hyd i hanes cyfoethog trigolion Du Tre-biwt y mae modd ei olrhain yn ôl trwy genedlaethau. Yn y rhaglen ddogfen fer hon, mae e’n archwilio presenoldeb y gymuned Ddu yn Nhre-biwt, o’r trigolion sydd yma heddiw, yn ôl i hanes sut y daeth eu teuluoedd i ymgartrefu yng Nghymru.

Content Box

Cyflwynir Reuel Elijah, arweinydd dawns Jukebox Collective, fel ‘trailblazer cerddorol’, sy’n dysgu dosbarth gyda’n myfyrwyr ac yn meithrin eu hyder i gyrraedd eu potensial. Dywed wrth Mo, “Mae’n dechrau gyda’r ddawns, ond gall yr hyder fynd â chi i unrhyw le.”

Youtube Video
Content Box

Your safety is our priority. We’re committed to keeping you safe which is why we’ve introduced a range of measures to keep our students and tutors dancing safely.

The following policies are based on government guidelines and are in constant review.

Temperature checks on arrival
Anyone with a temperature above what is considered safe by government standards won’t be able to participate in the class

Track and Track
Details will be cross referenced from booking to adhere to our  Track & Trace procedures. These details will only be used in respect of the Track & Trace and will only be kept within the 21 day suggested timeframe.

Hand sanitising/washing
This is required before and after class. There are hand sanitising stations located around the buildings

Masks
Masks are required upon arrival, exit and when walking around the space for people age 11+. They can be removed during activity. We can also provide masks. 

Social distancing
Cones will be put in place to mark spaces and ensure that everyone is 2m apart at all times.

Reduced class capacity
Our classes will have limited numbers to ensure that social distancing can be adhered to

Please do not attend a class if you or anyone you’ve been in contact with have any symptoms of COVID-19.

Llwytho