Content Box

Sesiwn arddangosfa flynyddol yr Academi yw uchafbwynt y flwyddyn; cynhyrchiad llawn, cyffrous, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr arddangos eu prosiectau a dathlu eu gwaith caled. Yn ystod ein sesiwn arddangos yn 2020, fe wnaethom ni rywbeth nad ydym erioed wedi’i wneud o’r blaen – cynnal ein dathliadau ar-lein!

Roedd ein myfyrwyr wedi bod yn gweithio o bell ar eu darnau diwedd blwyddyn yn ystod y cyfnod clo, gan dderbyn sesiynau rhith-fentora a dosbarthiadau gan ein tiwtoriaid a’n mentoriaid ymroddedig. Fe wnaeth y myfyrwyr gysyniadu a ffilmio eu darnau eu hunain gyda’n help ni, gan greu gweithiau hyfryd ac unigryw mewn ystod o gyfryngau – o ddawns, i air llafar, i’r celfyddydau gweledol. Ysbrydolwyd llawer o ddarnau ein myfyrwyr gan yr hinsawdd wleidyddol a’r mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys/Black Lives Matter, gan arwain at gysyniadau pwerus oedd yn caniatáu iddynt archwilio eu treftadaeth, eu hunanfynegiant ac i gynnig sylwadau ar ddigwyddiadau hanesyddol.

Content Box

Ar Zoom, cynhaliwyd premier preifat gennym ar gyfer ffrindiau a theulu, ac yna fersiwn gyhoeddus o’r sesiwn arddangos a fynychwyd gan lawer o greadigion lleol ynghyd â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Bu’r arddangosfa yn llwyddiant ysgubol, ac roedd yn cynnwys perfformiadau byw a sawl premier o fideos myfyrwyr yr Academi, yn ogystal â rhoi llwyfan i westai arbennig, sef yr artist cerdd lleol, B Written. Drwy gydol y digwyddiad, roedd y gefnogaeth galonogol yn amlwg yn yr holl sylwadau a dderbyniwyd gan y mynychwyr yn y blwch sgwrsio a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol. Ymhlith rhai o’n hoff sylwadau mae:

“Llongyfarchwch eich holl griw talentog ar eu gwaith neithiwr. Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig ac roedd yr ystod o ffurfiau celf yn rhywbeth arall. ”- Michael Waters, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

“Noson anhygoel gyda Jukebox Collective – rydych chi’n ysbrydoliaeth bobl! Gwnaeth eich gwaith i mi wenu a chrïo, ac o’r fath dalent! Wedi gwirioni ar bob eiliad.” – Catherine Young, Dawns i Bawb

Content Box

Cafodd Carnifal Tre-biwt ei lwyfannu gyntaf yng nghanol y 1960au, ac roedd yn dathlu diwylliant a threftadaeth gerddorol Cymru amlddiwylliannol. Mae gwreiddiau’r digwyddiad eiconig hwn yn mynd yn ôl i ran gyntaf yr 20fed Ganrif, pan fu morwyr o Affrica, India’r Gorllewin a mannau eraill yn arwain perfformiadau a gorymdeithiau byrfyfyr ar y strydoedd. Ysbrydolodd hyn draddodiad o weithgareddau diwylliannol a chymdeithasol a ddaeth i siâp yng Ngharnifal blynyddol Tre-biwt.

Content Box
Content Box
Content Box

Trwy orymdeithiau, perfformiadau, gweithdai a gweithgareddau, roedd y Carnifal yn cynrychioli ysbryd cymunedol Tre-biwt, canolbwynt amlddiwylliannedd lle’r oedd pobl o wahanol gefndiroedd yn byw’n gytûn, er gwaethaf gelyniaeth a hiliaeth. Dros y 40 mlynedd nesaf, denodd y carnifal ddegau o filoedd o bobl i Gaerdydd ac fe dyfodd mor boblogaidd â charnifalau Affro-Caribïaidd eraill y DU, e.e. Notting Hill a St Paul’s.

Content Box
Content Box
Content Box

Roedd y perfformwyr yn y carnifal yn gymysgedd o fandiau lleol, systemau sain, cerddorion ac enwogion, ac y neu plith Aswad, Musical Youth, Bo Diddley, Tipper Ire, Roots & Branches a The Little Butes. Hyd heddiw, mae pobl leol yn siarad yn annwyl am eu hatgofion am y Carnifal fel uchafbwynt eu hafau wrth dyfu i fyny, bob blwyddyn, boed law neu hindda.

Content Box
Content Box

Ar ôl bwlch o 16 mlynedd, cafodd Carnifal Tre-biwt ei adfywio gan y gymuned yn 2014 a hynny mewn ymateb i alw lleol ac mae bellach wedi’i sefydlu’n gadarn fel digwyddiad blynyddol i ddathlu hanes cyfoethog diwylliant Affrica a’r Caribî.

Content Box
Content Box

I ddysgu mwy am y Carnifal:

Cofio Carnifal Tre-biwt: Cynyrchiadau 14th Floor Productions  https://www.youtube.com/watch?v=zcnjV2Tvnbc)

Rhaglen Ddogfen Carnifal Tre-biwt: Cynyrchiadau Big Scott Radio a It’s My Shout (dolen https://www.youtube.com/watch?v=EelJuOhxk8E&t=27s

Lluniau o BBC Cymru, Simon Campbell a Hanes Cerdd Caerdydd

Content Box
  1. Cyfres mewn chwe rhan oedd ‘Ebony on the road’ a gyflwynwyd gan Brinsley Forde Aminatta Forna a Martin Shaw, lle mae Ebony yn mynd allan ar y ffordd i gwrdd â chymunedau Affro-Caribïaidd Prydain. Mae’r rhaglen hon yn mynd â ni’n ôl i Dre-biwt, Caerdydd ym 1984 ac mae’n cynnwys perfformiadau gan fandiau Cymreig – Bissmillah a Denym ynghyd â chyfweliadau gydag arweinwyr cymunedol ac yn eu plith Gaynor Legall.
Youtube Video
Content Box

Ein hoff ddarn yw’r uchafbwynt sy’n sôn am Ysgol Gynradd Mount Stuart. Mae’n rhoi sylw i Bennaeth Du Cyntaf Cymru, sef Betty Campbell oedd yn Hyrwyddwraig Amlddiwylliannedd. Fe’i ganed ym 1934 i deulu dosbarth gweithiol yn Nhre-biwt ac fe oresgynnodd Betty rwystrau a hiliaeth a bu’n gyfrifol am greu hanes gan osod diwylliant Du ar ei chwricwlwm yng Nghaerdydd.

Content Box
Content Box

Bu myfyrwyr yr Academi yn siarad â Teledu Caerdydd/Cardiff TV am sut maen nhw’n parhau i ddawnsio ac aros yn greadigol, er gwaethaf Covid-19.

Youtube Video
Content Box

Maen nhw’n siarad am eu huchafbwynt ar-lein; taith ddigidol er mwyn cysylltu â phobl greadigol yn Ghana. Cafodd y myfyrwyr gyfle i gwrdd, siarad a dysgu popeth am y llwyfannau dawns, ffasiwn a byd-eang mwyaf anhygoel ar-lein a adeiladwyd gan rai o’r bobl ifanc creadigol mwyaf dylanwadol yng Ngorllewin Affrica. Gwnaethom weithio mewn partneriaeth â Dance God Lloyd er mwyn darparu gweithdy Dawns Affro ar gyfer myfyrwyr. Dance God Lloyd sefydlodd y ddawns “agbelemi” yn ogystal â’i gasgliad dawns DWP Academy.

Youtube Video
Content Box
Content Box

Nesaf, gwahoddwyd Joey Lit, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol Free The Youth gennym. Fe gysyllton ni dros ddeg ar hugain o fyfyrwyr ar gyfer sesiwn holi-ac-ateb ar-lein lle rhoddodd Joey gipolwg i ni ar lansio ‘pwerdy’ creadigol a mudiad ieuenctid sy’n grymuso’r genhedlaeth nesaf.

Content Box
Content Box

Mae Ghana yn parhau i osod y tempo fel deorydd ar gyfer rhai o’r talentau creadigol mwyaf arloesol. Fel rhan o Gronfa Symudedd Celf Cymru y Cyngor Prydeinig, llwyddasom i dderbyn cyllid ar gyfer taith gwmpasu i’r brifddinas, Accra. Cawsom ein denu at Accra, oherwydd ei hamrywiaeth a’i hegni dramatig ac roeddem yn awyddus i archwilio potensial partneriaethau a chydweithrediadau newydd. Yn ystod ein taith cawsom gyfle i gyfarfod â thros 15 o unigolion a sefydliadau, gyda’r nod o gyfoethogi’r ddwy ochr a hwyluso croes-beillio.

Content Box
Content Box

Fe gwrddon ni â DWP Academy yn eu gofod ymarfer yn Djorwulu lle maen nhw’n dysgu dosbarthiadau cymunedol a lle maen nhw’n ffilmio’r rhan fwyaf o’u dawnsiau feirysol. Fe’u sefydlwyd gan Dance God Lloyd ac Afrobeast; mae’r grŵp dawns hwn ar flaen y gad ym maes yr Affro-ddawns ac mae ganddyn nhw bresenoldeb byd-eang ar-lein a heriau dawns eiconig. Roedd hi’n bwysig inni gysylltu â dechreuwyr y symudiadau hyn ac i gydweithio â’r artistiaid hyn wrth ystyried sut i ddod â’r ffurf ddiwylliannol gyfoethog hon ar gelfyddyd i Gymru.

Youtube Video
Content Box

Wedyn, fe wnaethon ni gysylltu â Joey Lit a Kelly, sylfaenwyr Free The Youth Ghana. Mae’r grŵp hwn yn arwain y ffordd i ymgysylltu â’r alltudion a chyflwyno llun o Affrica sy’n herio ystrydebau. Mae eu label dillad stryd cwlt wedi ennill sylw lleol a rhyngwladol, ac mae eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn mynd â nhw ar daith gyffrous, gan rymuso ieuenctid ar draws y byd.

Content Box
Content Box

Fel y rhai sy’n cymryd risg, mae artistiaid ifanc yn Ghana yn cychwyn mudiadau heb aros am ddilysiad nac arweiniad, ond yn lle hynny yn defnyddio adnoddau cymunedol ac ar-lein i arwain ei gilydd, rhannu gwybodaeth a chreu gwerth am eu gwaith. Roedd ein taith yn cynnwys sgyrsiau gyda’r creadigion Nana Yaw Oduro, yr artist gweledol Hakeem Adam, y cyfarwyddwr Nana Akosua Hanson, yr artist symudiadau Kwame Boafo yn Accra (dot) Alt y cerddor Fuse ODG a’r artist Kuukua Eshun a gyd-sefydlodd Boxed Kids gyda Prince Gyasi.

Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box
Content Box

I gael gwybod mwy am y sȋn ddawns yn Accra cawsom ein cyflwyno i’r dawnswyr Shelly Ohene Nyako, Jeff Washington yn ogystal ag Incredible Zigi a sefydlodd AfroZig ac sy’n adnabyddus am greu’r Pilolo.

Youtube Video
Content Box

Ymhlith y sefydliadau eraill oedd yn gweithredu newid ar draws y wlad y buom ni’n cyfnewid â nhw roedd The First Creatives ac Accra Theatre Workshop.

Mae’r ymweliad wedi tanio cysylltiadau ystyrlon newydd y byddwn yn parhau i’w harchwilio.

Content Box
Content Box

Liara Barussi (Artistic Director) & Lauren Patterson (Strategic Director) in Ghana, April 2019.

Content Box

Fel sefydliad dan arweiniad Pobl Ddu sydd wedi’i leoli yn Nhre-biwt, Caerdydd, ein nod yw gwireddu hunan benderfyniad yn achos cymunedau lleiafrifol ar draws Cymru gyfan trwy gydnabod a dathlu harddwch amrywiaeth a chreu gofod lle gall ein cymuned fynegi eu hangerdd a sicrhau llwyddiant.

Content Box
Content Box

Mae hiliaeth yn brofiad byw bob dydd i lawer o’r myfyrwyr, tiwtoriaid a chreadigion rydyn ni’n gweithio gyda nhw – o’r digwyddiadau amlycaf sydd â chymhelliant hiliol i’r micro-ymosodiadau cynnil. Rydym yn byw mewn cymdeithas sydd wedi’i strwythuro gan anghyfiawnder hiliol; yng Nghymru mae hyn yn cael effeithiau dwys ar allu cael at gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd yn ogystal ag iechyd a lles personol. Ein gwaith beunyddiol yw creu newid, yn y diwydiannau creadigol yn ogystal ag ym mywydau unigol y bobl ifanc rydyn ni’n eu mentora. Rydym bob amser wedi, ac fe fyddwn yn parhau i sefyll gyda’n cymuned i ymladd yn erbyn gormes hanesyddol a hiliaeth systemig.

Mae datgymalu systemau gormes yn gofyn am ymroddiad ac ymrwymiad – rydyn ni yma, rydyn ni’n cefnogi’r mudiad #blacklivesmatter heddiw ac i’r dyfodol. Byddwn yn parhau i weithio fel na fydd y genhedlaeth nesaf yn wynebu’r un gwahaniaethu, anghydraddoldeb ac anghyfiawnder ag sy’n bodoli heddiw.

Er mwyn llywio ac addysgu ein cynulleidfaoedd, rydym wedi casglu rhestr gynyddol o adnoddau sy’n cynnwys sefydliadau i’w cefnogi, deunyddiau darllen, podlediadau, ffilmiau a mwy.

Mynediad trwy Google docs

 

Content Box
Content Box
Content Box

Mewn cydweithrediad arbennig, cynhaliodd sefydliadau cerddoriaeth a digwyddiadau llawr gwlad lleol sef y Rotary Club & Blue Honey ddigwyddiad ffrydio trwy’r dydd ar-lein i godi arian er mwyn cefnogi ein dosbarthiadau ar-lein yn ogystal â’r elusen Oasis Caerdydd sy’n cefnogi ffoaduriaid.

Youtube Video
Content Box

Roedd y digwyddiad 11am-11pm yn cynnwys detholiad wedi’i guradu o DJs fel Esther, Sam Jones, Andy Warphole a mwy o synau eclectig troellog o gysur eu cartrefi hwy eu hunain. Trwy gydol y dydd, i gyd-fynd â llif y gerddoriaeth, cafwyd perfformiadau gan ddawnswyr Jukebox, e.e. ein tiwtor dosbarth Ramelle Williams yn torri siapiau o’i ardd. Diolch enfawr i’r Clwb Rotari a Blue Honey am godi arian i’n helpu i barhau â’n dosbarthiadau ar-lein trwy gydol y cyfnod clo!

Content Box
Content Box

Roedd #DancePassion yn ddathliad ledled y DU o’r sȋn ddawns lewyrchus, mewn cydweithrediad â’r BBC ac One Dance UK, ac roedd yn cynnwys ymarferion unigryw a mewnwelediadau gan rai o brif ymarferwyr y wlad. Cafwyd perfformiad egnïol iawn wedi’i ysbrydoli gan Affro-ddawns gan fyfyrwyr Academi Jukebox, cyflwyniad gyda’n Cyfarwyddwr Artistig, Liara Barussi yn gyfrifol am y coreograffi.

Gwyliwch ein perfformiad llawn isod.

Youtube Video
Content Box

Roedd y diwrnod yn cynnwys dros 20 o ffrydiau byw ysbrydoledig o Abertawe, Birmingham, Leeds, Belfast a Llundain, ac yn arddangos ystod o arddulliau gan amrywiaeth o berfformwyr a chydweithfeydd, megis NDC Wales, Rambert, The National Youth Dance Company a mwy. Fel rhan o’r digwyddiad, archwiliwyd gwyddoniaeth dawns wrth i’r Birmingham Royal Ballet gynnal arbrawf byw i ddangos sut mae olrhain symudiadau 3D yn cael ei ddefnyddio i wthio ffiniau mewn coreograffi, yn ogystal ag i amddiffyn dawnswyr rhag anaf. Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi bod yn rhan o ddigwyddiad mor greadigol ac arloesol sydd ar flaen y gad ym myd dawns yn y DU.

Content Box

Mewn partneriaeth â Ballet Cymru, rydym yn cyflwyno cyfuniad o ‘hip hop’ a bale i blant ysgol yn Ysgol Gynradd Mount Stuart. Mae Duets yn ymwneud â mynd i’r afael â bylchau sylfaenol yn y ddarpariaeth ar gyfer cyfleoedd dawnsio yng Nghymru. Ei nod yw estyn allan, ymgysylltu â phobl a theuluoedd, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi ac mewn ardaloedd economaidd-gymdeithasol isel yng Nghymru a grwpiau ar yr ymylon, a chefnogi pobl i gael mynediad at ddawns, waeth beth fo’u cefndir, cyllid, hil, cred, gallu, a rhyw/cyfeiriadedd.

Content Box
Content Box

“Fel un o benaethiaid yr ysgolion cynradd lle mae nifer o’n disgyblion wedi elwa o’r dull arloesol hwn, ni allaf roi canmoliaeth digon uchel i ymroddiad ac ymrwymiad staff y ddau gwmni. Mae wedi bod yn wych gweld y cynnydd y mae’r disgyblion dan sylw wedi’i wneud, nid yn unig o ran eu sgiliau dawns ond hefyd yn natblygiad eu hunanhyder a’u perfformiad academaidd. ” 

Jane Jenkins – Pennaeth, Ysgol Gynradd Moorland

Dewch i wybod mwy am y prosiect cydweithredol cyffrous hwn trwy Liara Barrusi, ein Cyfarwyddwr Artistig isod:

MEWNOSOD FIDEOhttps://videopress.com/v/bZSGtxek

Youtube Video
Content Box

I ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi 2020, bu academi Jukebox a myfyrwyr y dosbarth cymunedol yn perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn Theatr eiconig Donald Gordan. Cynhaliwyd y diwrnod gan yr orsaf Radio Platfform sydd dan arweiniad ieuenctid, ac roedd yn cynnwys perfformiadau gan artistiaid a chydweithfeydd llawr gwlad lleol o amrywiaeth o genres er mwyn arddangos y dalent orau a’r mwyaf ffres yng Nghymru. Rhoddwyd cychwyn ar bethau gennym gyda pherfformiad bywiog a osododd naws y sioe, ac roedd ein myfyrwyr wrth eu boddau yn cael bod yn rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Ddewi a hanes Cymru!

Content Box
Content Box
Llwytho