Production Cover

Hanes Carnifal Tre-biwt

Content Box

Cafodd Carnifal Tre-biwt ei lwyfannu gyntaf yng nghanol y 1960au, ac roedd yn dathlu diwylliant a threftadaeth gerddorol Cymru amlddiwylliannol. Mae gwreiddiau’r digwyddiad eiconig hwn yn mynd yn ôl i ran gyntaf yr 20fed Ganrif, pan fu morwyr o Affrica, India’r Gorllewin a mannau eraill yn arwain perfformiadau a gorymdeithiau byrfyfyr ar y strydoedd. Ysbrydolodd hyn draddodiad o weithgareddau diwylliannol a chymdeithasol a ddaeth i siâp yng Ngharnifal blynyddol Tre-biwt.

Content Box
Content Box
Content Box

Trwy orymdeithiau, perfformiadau, gweithdai a gweithgareddau, roedd y Carnifal yn cynrychioli ysbryd cymunedol Tre-biwt, canolbwynt amlddiwylliannedd lle’r oedd pobl o wahanol gefndiroedd yn byw’n gytûn, er gwaethaf gelyniaeth a hiliaeth. Dros y 40 mlynedd nesaf, denodd y carnifal ddegau o filoedd o bobl i Gaerdydd ac fe dyfodd mor boblogaidd â charnifalau Affro-Caribïaidd eraill y DU, e.e. Notting Hill a St Paul’s.

Content Box
Content Box
Content Box

Roedd y perfformwyr yn y carnifal yn gymysgedd o fandiau lleol, systemau sain, cerddorion ac enwogion, ac y neu plith Aswad, Musical Youth, Bo Diddley, Tipper Ire, Roots & Branches a The Little Butes. Hyd heddiw, mae pobl leol yn siarad yn annwyl am eu hatgofion am y Carnifal fel uchafbwynt eu hafau wrth dyfu i fyny, bob blwyddyn, boed law neu hindda.

Content Box
Content Box

Ar ôl bwlch o 16 mlynedd, cafodd Carnifal Tre-biwt ei adfywio gan y gymuned yn 2014 a hynny mewn ymateb i alw lleol ac mae bellach wedi’i sefydlu’n gadarn fel digwyddiad blynyddol i ddathlu hanes cyfoethog diwylliant Affrica a’r Caribî.

Content Box
Content Box

I ddysgu mwy am y Carnifal:

Cofio Carnifal Tre-biwt: Cynyrchiadau 14th Floor Productions  https://www.youtube.com/watch?v=zcnjV2Tvnbc)

Rhaglen Ddogfen Carnifal Tre-biwt: Cynyrchiadau Big Scott Radio a It’s My Shout (dolen https://www.youtube.com/watch?v=EelJuOhxk8E&t=27s

Lluniau o BBC Cymru, Simon Campbell a Hanes Cerdd Caerdydd

Llwytho