Production Cover

sesiwn arddangos ar-lein yr academi 2020

Content Box

Sesiwn arddangosfa flynyddol yr Academi yw uchafbwynt y flwyddyn; cynhyrchiad llawn, cyffrous, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr arddangos eu prosiectau a dathlu eu gwaith caled. Yn ystod ein sesiwn arddangos yn 2020, fe wnaethom ni rywbeth nad ydym erioed wedi’i wneud o’r blaen – cynnal ein dathliadau ar-lein!

Roedd ein myfyrwyr wedi bod yn gweithio o bell ar eu darnau diwedd blwyddyn yn ystod y cyfnod clo, gan dderbyn sesiynau rhith-fentora a dosbarthiadau gan ein tiwtoriaid a’n mentoriaid ymroddedig. Fe wnaeth y myfyrwyr gysyniadu a ffilmio eu darnau eu hunain gyda’n help ni, gan greu gweithiau hyfryd ac unigryw mewn ystod o gyfryngau – o ddawns, i air llafar, i’r celfyddydau gweledol. Ysbrydolwyd llawer o ddarnau ein myfyrwyr gan yr hinsawdd wleidyddol a’r mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys/Black Lives Matter, gan arwain at gysyniadau pwerus oedd yn caniatáu iddynt archwilio eu treftadaeth, eu hunanfynegiant ac i gynnig sylwadau ar ddigwyddiadau hanesyddol.

Content Box

Ar Zoom, cynhaliwyd premier preifat gennym ar gyfer ffrindiau a theulu, ac yna fersiwn gyhoeddus o’r sesiwn arddangos a fynychwyd gan lawer o greadigion lleol ynghyd â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Bu’r arddangosfa yn llwyddiant ysgubol, ac roedd yn cynnwys perfformiadau byw a sawl premier o fideos myfyrwyr yr Academi, yn ogystal â rhoi llwyfan i westai arbennig, sef yr artist cerdd lleol, B Written. Drwy gydol y digwyddiad, roedd y gefnogaeth galonogol yn amlwg yn yr holl sylwadau a dderbyniwyd gan y mynychwyr yn y blwch sgwrsio a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol. Ymhlith rhai o’n hoff sylwadau mae:

“Llongyfarchwch eich holl griw talentog ar eu gwaith neithiwr. Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig ac roedd yr ystod o ffurfiau celf yn rhywbeth arall. ”- Michael Waters, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

“Noson anhygoel gyda Jukebox Collective – rydych chi’n ysbrydoliaeth bobl! Gwnaeth eich gwaith i mi wenu a chrïo, ac o’r fath dalent! Wedi gwirioni ar bob eiliad.” – Catherine Young, Dawns i Bawb

Llwytho