Content Box

Cynhaliwyd y gystadleuaeth gyntaf erioed yn y gyfres Dawnsiwr Ifanc y BBC Young Dancer gan y BBC yn 2015. Roedd yn dilyn ymchwil naw mis am y dawnswyr mwyaf dawnus ac ymroddedig yn y DU rhwng 16 a 20 oed, a hynny mewn pedwar categori; Dawns Bale, Cyfoes, ‘Hip Hop’ a Dawns De Asia.

Yn y Rownd Derfynol mae’r enillwyr o bob categori yn perfformio, ochr yn ochr â dau ‘gerdyn gwyllt’ ychwanegol, am y teitl cyffredinol, o flaen panel o feirniaid sy’n cynnwys rhai o’r enwau mwyaf o fyd y ddawns. Mae BBC Young Dancer, ynghyd â BBC Young Musician, yn ganolog i gefnogaeth y BBC i’r celfyddydau a’i ymrwymiad i ddatblygu talent newydd.

Yma, edrychwn yn ôl ar ein teithiau gyda Dawnsiwr Ifanc y BBC/ BBC Young Dancer a straeon ein myfyrwyr talentog a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol.

Content Box
Content Box

Yn 2015, cyrhaeddodd Sharifa Tonkmore y rownd derfynol yn y categori ‘Hip Hop’ gyda’i pherfformiad dull rhydd unigryw. Y Cyfarwyddwr Artistig, Liara Barussi oedd mentor y categori ‘Hip Hop’, a bu’n darparu cefnogaeth ac anogaeth i Sharifa trwy gydol y broses.

>> https://www.bbc.co.uk/programmes/p02prphf

Yn 2017 a 2019, fe gyrhaeddodd Kate Morris rownd derfynol Dawns y Stryd, gan greu argraff ar feirniaid gyda’i pherfformiad theatrig oedd yn dal ei steil haniaethol o symudiadau.

Content Box
Content Box

> https://www.bbc.co.uk/programmes/p078tsvz

 

Yn 2017, Jodelle Douglas oedd enillydd y categori Dawnsio Stryd a aeth ymlaen i berfformio yn y rowndiau terfynol yn theatr Saddler’s Wells.

Content Box
Content Box
Content Box

Yn 2011, cerddodd grŵp o feirdd Somalïaidd o Dre-biwt i mewn i swyddfa National Theatre Wales a dweud eu bod eisiau llwyfannu sioe. Trowyd eu stori yn De Gabay, drama arobryn a berfformiwyd ym mis Chwefror 2013 fel rhan o gyfnod preswyl National Theatre Wales yn Nhre-biwt. Cafodd dawnswyr Jukebox Collective eu castio i berfformio a chymryd rhan yn y cynhyrchiad gwych hwn.

Content Box
Content Box

Yn niwylliant Somala, mae de gabay (barddoniaeth, cân) nid yn unig yn ymwneud â mynegiant, mae’n ymwneud â chelfyddyd. Mae’n ymwneud â rhannu syniadau rhwng grwpiau sy’n cystadlu; ynghylch datrys gwrthdaro; yn ymwneud ag athroniaeth. Mae’n ddefod, ac yn un sy’n chwarae rhan fywiog wrth siapio cymuned.

Content Box
Content Box

Sioe Gymraeg ar S4C yw TIPINI. Mae’n gyfres liwgar i blant meithrin sy’n croesawu pawb i ganu a dawnsio. Cafodd Jodelle Douglas, talent yr asiantaeth, ei gastio i ddifyrru ac ymgysylltu trwy ei ddefnydd animeiddiedig o symudiadau.

Content Box
Content Box

Roedd Artists’ Playground’ yn breswyliad artist newydd sbon ac unigryw a gynhaliwyd yn Ne Korea ac a lwyfannwyd mewn partneriaeth rhwng National Theatre Wales a Performance Group TUIDA (De Korea). Dewiswyd y Cyfarwyddwr Artistig, Liara Barussi wedi i dros 150 o artistiaid o Gymru, De Korea, India a Japan wneud cais am gael bod yn rhan o’r prosiect.

 

Youtube Video
Content Box

Ffocws y cyfnod preswyl oedd cefnogi creu syniadau arloesol, arbrofion artistig a chydweithrediadau trawsddiwylliannol. Roedd y cyfnod preswyl yn archwilio amrywiol arferion artistig gan gynnwys theatr, coreograffi, ysgrifennu, celfyddyd fyw a gosod. Roedd yn gyfle i’r artistiaid hyn ddatblygu eu harferion ochr yn ochr ag eraill – gan gydweithio ar draws ffurf gelf ar syniadau newydd a rhannu’r canlyniadau. Treuliodd y grŵp amser hefyd yn myfyrio ar eu harferion cyfredol, ynghyd â thrafod ac ymchwilio i’r gwahanol ddulliau y mae artistiaid eraill yn eu harfer wrth greu gwaith newydd, yn amrywio o’r personol i’r diwylliannol.

Youtube Video
Content Box

Fe ymddangosodd myfyrwyr yr Academi – Lukas Gabco, Shakira Ifill a Gui Pinto – yn eu ffilm fer gyntaf yn 2018 ‘Edgar’s Hair’ a ysgrifennwyd gan Liam Kelly, a’i chyfarwyddo gan Gavin Porter.

Lukas oedd yn serennu fel yr arweinydd, Edgar Bootle, sydd wedi cael llond bol ar fod yn amhoblogaidd yn yr ysgol. Roedd yn cael ei watwar gan fwlis a hynny am bopeth, o’i esgidiau i’w ffôn, ac yn fwyaf arbennig ei wallt. Mae Edgar yn gwneud y penderfyniad ei bod hi’n bryd newid ffoto.

Ond a fydd ei lun newydd yn ei newid er gwell?

Content Box
Content Box

I ddathlu 10 mlynedd o Banel Cynghori Is-Sahara (Sub-Sahara Advisory Panel SSAP) comisiynwyd Jukebox Collective i ddatblygu perfformiad pwrpasol ar gyfer y Gala. Roedd y digwyddiad yn dathlu bywiogrwydd y cyfandir a’r gymuned Affricanaidd yng Nghymru. Roedd yn sesiwn arddangos i drysorau diwylliannol Affrica, cyfandir mwyaf bywiog y byd, drwy ddathlu ei bwyd, ffasiwn, cerddoriaeth, dawns a’i barddoniaeth.

Content Box
Content Box

Bu chwedleuwyr Cymreig lleol, beirdd, cerddorion a siaradwyr gwadd a DJ yn diddanu gwesteion gyda synau o bob rhan o’r cyfandir ac yn eu plith roedd Highlife, Rhumba, Ndomboloo, Afrobeats, Soukous, Kizomba a mwy.

Roedd hwn yn bendant yn un o’n hoff ddigwyddiadau Cymreig y flwyddyn!

Content Box
Content Box

SSAP

Melin drafod annibynnol ar ddatblygiad rhyngwladol yw Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP). Nod SSAP yw ystyried a dilyn anghenion Grwpiau Alltud yn eu gwaith datblygu rhyngwladol, a hwyluso gwybodaeth a sgiliau Grwpiau Alltud yng Nghymru i’w defnyddio i gynghori a chefnogi Sefydliadau Datblygu Rhyngwladol Cymreig brodorol. Dilynwch eu gwaith yma here.

Content Box

Ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, buom yn dathlu ein hoff arloeswyr dawns – o ddyfeiswyr ‘locking’ i’r rhai a luniodd ddyfodol dawns. Dewch i adnabod y rhestr anhygoel o’r bobl hynny fu’n paratoi’r ffordd i ni heddiw!

Content Box
Content Box

Y Brodyr Nicholas

Daeth Fayard & Harold yn un o actau dwbl mwyaf poblogaidd canol yr 20fed ganrif. Roedden nhw’n rhagori mewn amrywiaeth o dechnegau, a dawnsio tap yn benodol.

Content Box
Content Box

James Brown              

Hyrwyddwr cerddoriaeth ffync a ffigwr o bwys yng ngherddoriaeth a dawns yr 20fed ganrif.

Content Box
Content Box

Gregory Hines                   

Un o’r dawnswyr tap enwocaf erioed. Bu Hines yn serennu mewn mwy na deugain o ffilmiau a gwnaeth ei farc ar Broadway hefyd yn ystod ei oes.

Content Box
Content Box

The Black Resurgents

Grwpiau Arloesol Boogaloo & Stepping rhwng y 1960’au – 1970’au yn Oakland.

Content Box
Content Box

The Lockers        

Yn derbyn y clod am ddyfeisio ‘Locking’ yn y 1970au. Ymhlith yr aelodau roedd Don “Campbellock” Campbell & Greg “Campbellock Jr.”

Content Box
Content Box

Geoffrey Holder                   

Roedd Geoffrey Holder, yr eicon diwylliannol, yn ddawnsiwr, coreograffydd, actor, dylunydd ac arlunydd; fe’i ganed yn Nhrinidad ac roedd yn gweithio yn Efrog Newydd.

Content Box
Content Box

Tyrone Proctor          

Dawnsiwr ‘soul train’ yn y 1970au ac arloeswrwaacking’.

Content Box
Content Box

The Black Messengers                      

Wedi’i ffurfio ym 1972, fe wnaeth y grŵp arloesi techneg ‘Boogalooo “posing hard” a fyddai’n datblygu i fod yn ‘popping.

Content Box
Content Box

Alvin Ailey     

Dawnsiwr, cyfarwyddwr, coreograffydd, ac actifydd a sefydlodd Theatr Ddawns Americanaidd Alvin Ailey ym 1958.

Content Box
Content Box

Pearl Primus                      

Cenhadwr dros y ddawns Affricanaidd. Roedd hi’n ddawnswraig, coreograffydd ac anthropolegydd a chwaraeodd ran bwysig yn y dasg o gyflwyno dawns Affricanaidd i gynulleidfaoedd Americanaidd.

Content Box
Content Box

Josephine Baker                          

Dawnswraig a chantores Ffrengig a aned yn America ac yn un oedd yn symbol o harddwch a bywiogrwydd diwylliant Du America; ysgubodd ddinas Paris yn y 1920au.

Content Box
Content Box

Elroy Josephz                     

Dawnsiwr, actor, cynhyrchydd ac athro Jamaicaidd-Brydeinig. Chwaraeodd ran ganolog yn y dasg o newid sut mae dawns fodern yn cael ei haddysgu a’i pherfformio.

Content Box
Content Box

Katherine Mary Dunham     

Dawnswraig, coreograffydd, awdures, addysgwraig, anthropolegydd, ac actifydd cymdeithasol. Cafodd ei galw’n “fatriarch a mam frenhines dawns Ddu.”

Content Box
Content Box

Berto Pasuka            

Sylfaenydd Les Ballet Negres, cwmni dawns Du cyntaf Ewrop yn 1946.

Content Box
Content Box

Buddy Bradley                 

Dawnsiwr a choreograffydd yn y 1930au ac yn ddiweddarach. Ef oedd y dawnsiwr Du cyntaf i lunio coreograffi sioe o ddawnsiwyr gwynion i gyd yn Llundain.

Content Box
Content Box

The Electric Boogaloos                 

Fe’i sefydlwyd gan Boogaloo Sam yn Fresno, California ym 1977. Ymhlith yr aelodau roedd Poppin Pete, Skeeter Rabbit a Sugar Pop.

Content Box
Content Box

I Dance Jazz (IDJ)                      

Cafodd y grŵp hwn ei ffurfio yn y 1980au ac roedd y dawnswyr hyn o’r DU yn arloeswyr mewn arddull dawns jazz oedd yn asio traddodiadau jazz gwerinol, tap, bale, dawnsfeydd India’r Gorllewin ac Affrica. Câi’r rhain eu hymarfer yn bennaf gan ddawnswyr gwrywaidd Du o gymunedau mewnfudwyr tlawd ar draws y DU, ac roedden nhw’n adnabyddus am eu gwaith troed cywrain, triciau anhygoel, a’u hegni diflino.

Content Box

Fel rhan o’n taith ar-lein i Ghana, buom yn cynnal sgwrs gyda Joey Lit – Artist, Dylunydd, Cyfarwyddwr Creadigol, Dyngarwr, Peiriannydd Trydanol a sylfaenydd Free The Youth Ghana. Mae Free The Youth Ghana yn grŵp rydym ni’n ei edmygu; maen nhw’n arwain y ffordd, yn ymgysylltu â’r alltudion ac yn cyflwyno llun o Affrica sy’n herio ystrydebau. Mae eu label dillad stryd cwlt wedi ennill sylw yn lleol ac yn rhyngwladol, ac mae eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn mynd â nhw ar daith gyffrous, gan rymuso ieuenctid ar draws y byd.

>> INSERT VIDEO HERE <<

Buom yn siarad â Joey Lit am sut mae’r grŵp yn grymuso ac yn addysgu pobl ifanc, gan roi’r sgiliau iddyn nhw ddatblygu’n artistig a gweithio tuag at yrfaoedd yn y celfyddydau, yn ogystal â gwerthoedd gwaith cymunedol a chydweithredol. Fel y rhai sy’n cymryd risg, mae artistiaid ifanc yn Ghana yn cychwyn symudiadau heb aros am ddilysiad nac arweiniad, ond yn lle hynny maen nhw’n defnyddio adnoddau cymunedol ac ar-lein i arwain ei gilydd, rhannu gwybodaeth a chreu gwerth am eu gwaith. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ymhellach y cysylltiadau rhwng Cymru a Ghana!

Content Box

This year we celebrated 10 years since Jukebox Juniors competed in Got to Dance! The success of Jukebox Juniors brought us a global audience, with the show airing in many countries across the world. We loved representing Cardiff on the show, and sharing this video brought back memories for many in our community!

 

Content Box

Sesiwn arddangosfa flynyddol yr Academi yw uchafbwynt y flwyddyn; cynhyrchiad llawn, cyffrous, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr arddangos eu prosiectau a dathlu eu gwaith caled. Yn ystod ein sesiwn arddangos yn 2020, fe wnaethom ni rywbeth nad ydym erioed wedi’i wneud o’r blaen – cynnal ein dathliadau ar-lein!

Roedd ein myfyrwyr wedi bod yn gweithio o bell ar eu darnau diwedd blwyddyn yn ystod y cyfnod clo, gan dderbyn sesiynau rhith-fentora a dosbarthiadau gan ein tiwtoriaid a’n mentoriaid ymroddedig. Fe wnaeth y myfyrwyr gysyniadu a ffilmio eu darnau eu hunain gyda’n help ni, gan greu gweithiau hyfryd ac unigryw mewn ystod o gyfryngau – o ddawns, i air llafar, i’r celfyddydau gweledol. Ysbrydolwyd llawer o ddarnau ein myfyrwyr gan yr hinsawdd wleidyddol a’r mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys/Black Lives Matter, gan arwain at gysyniadau pwerus oedd yn caniatáu iddynt archwilio eu treftadaeth, eu hunanfynegiant ac i gynnig sylwadau ar ddigwyddiadau hanesyddol.

Content Box

Ar Zoom, cynhaliwyd premier preifat gennym ar gyfer ffrindiau a theulu, ac yna fersiwn gyhoeddus o’r sesiwn arddangos a fynychwyd gan lawer o greadigion lleol ynghyd â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Bu’r arddangosfa yn llwyddiant ysgubol, ac roedd yn cynnwys perfformiadau byw a sawl premier o fideos myfyrwyr yr Academi, yn ogystal â rhoi llwyfan i westai arbennig, sef yr artist cerdd lleol, B Written. Drwy gydol y digwyddiad, roedd y gefnogaeth galonogol yn amlwg yn yr holl sylwadau a dderbyniwyd gan y mynychwyr yn y blwch sgwrsio a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol. Ymhlith rhai o’n hoff sylwadau mae:

 

“Llongyfarchwch eich holl griw talentog ar eu gwaith neithiwr. Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig ac roedd yr ystod o ffurfiau celf yn rhywbeth arall. ”- Michael Waters, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

 

“Noson anhygoel gyda Jukebox Collective – rydych chi’n ysbrydoliaeth bobl! Gwnaeth eich gwaith i mi wenu a chrïo, ac o’r fath dalent! Wedi gwirioni ar bob eiliad.” – Catherine Young, Dawns i Bawb 

Llwytho