Oherwydd pandemig COVID19, ataliwyd ein gweithgareddau wyneb yn wyneb a symudwyd ein dosbarthiadau ar-lein, rhywbeth nad oeddem erioed wedi’i wneud o’r blaen. Gwyddom am yr effaith gadarnhaol mae ein gwersi yn ei chael ar les ein tiwtoriaid a’n myfyrwyr, gyda llawer ohonynt yn dod o gefndiroedd difreintiedig sydd mewn perygl penodol o effeithiau’r pandemig. Felly, roedd yn hanfodol ein bod yn cadw ein cymuned yn brysur ac yn gysylltiedig yn ystod cyfnodau anodd. Roedd ein dosbarthiadau ar-lein yn rhad ac am ddim i’w mynychu; ac yn eu plith roedd y Clwb Plant, Cysyniadau/Concepts, dosbarthiadau agored a mwy ar Zoom ac Instagram Live.
Er mwyn parhau â’r dosbarthiadau ar-lein hyn, gan sicrhau bod ein tiwtoriaid ymroddedig yn cael eu talu a’r gwersi yn cael eu cadw am ddim i fyfyrwyr, roedd angen cymorth ychwanegol arnom. Felly lansiwyd ymgyrch cyllido torfol gennym oedd yn rhoi sylw i’n cymuned gan alw ar ein cefnogwyr i gyfrannu’n ariannol er mwyn helpu ein dosbarthiadau ar-lein.
Bu’r ymgyrch yn llwyddiant, a llwyddwyd i godi digon o arian i barhau i weithio ar-lein yn ystod y pandemig a thu hwnt, yn ogystal â llwyddo i gyfateb rhoddion gan gefnogwyr hael! Dyma beth oedd gan rai o’n tiwtoriaid a’n myfyrwyr i’w ddweud am ddosbarthiadau ar-lein:
“Mae dosbarthiadau ar-lein yn fy helpu gryn dipyn i ddatblygu fy sgiliau a’m hyder. Rwy’n meddwl ei bod hi’n anhygoel sut y gallwn ni i gyd ddal i gyfathrebu er ein bod ar wahân.” – Chase, myfyriwr yn yr Academi
“Rwy’n hoff iawn o ddosbarthiadau ar-lein oherwydd ei fod yn ofod diogel lle gallwch ryngweithio â’ch ffrindiau. Maen nhw’n ein cadw ni’n hynod iach ac maen nhw wir wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau perfformio a dawnsio. Mae Jukebox yn un teulu mawr.” – Leila, myfyriwr yn yr Academi
“Mae’r platfform hwn yn caniatáu i bobl ddod o hyd iddyn nhw eu hunain; gallaf weld gymaint y mae hyn yn cael ei werthfawrogi gan y myfyrwyr sy’n dod i’m dosbarthiadau cysyniad. Mae’r ymdeimlad hwnnw o berthyn a chael y gymuned honno yn gefn yn dod â’r gorau allan o bobl.” – Ramelle, Tiwtor