Gui Pinto – cyn-fyfyrwyr academi Jukebox – yn serennu mewn fideo cerdd newydd gan y gantores o Gymru, Sara Davies
Mae Gui Pinto, Myfyriwr fu’n astudio yn yr Academi, yn cymryd rhan yn y fideo cerdd a grëwyd ar gyfer ‘Anfonaf Angel’ gan yr artist Cymraeg Sara Davies. Yn un o’r tri o ddawnswyr sy’n ymddangos yn y fideo, mae Gui yn gyn-fyfyriwr rhaglen Academi Jukebox. Mae’n adnabyddus am ei arddull hylifol ac mae i’w weld yn serennu yn y fideo cerdd hwn wrth iddo ef a’r dawnswyr eraill gyflwyno dawns ddeinamig sy’n arddangos dylanwadau pop a chyfoes.
Mae Gui Pinto yn gyn-fyfyriwr rhaglen Academi Jukebox a bu’n gweithio gyda ni ers iddo fod yn 10 oed. Yn hanu o dras Angolaidd a Phortiwgeaidd, mae’n artist amlddisgyblaethol sy’n archwilio modelu, dawns a ffasiwn yn fwyaf diweddar. Bu’n chwarae rhan flaenllaw yn ddiweddar yn y ffilm fer ‘Of Us’ (2024), a gynhyrchwyd gan gydweithfa Jukebox ac a gomisiynwyd gan y Llyfrgell Brydeinig ar gyfer Arddangosfa ‘Beyond The Bassline: 500 mlynedd o gerddoriaeth Ddu Brydeinig’.
“Fe wnes i wir fwynhau gweithio gyda Sara Davies; roedd y coreograffi yn hwyl i’w ddysgu a’i berfformio!” meddai Gui
Mae Academi Jukebox yn rhaglen ‘datblygu artistiaid’ ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd, ac mae’n cyflwyno gweithdai amlddisgyblaethol, sesiynau mentora a mewnwelediad i’r diwydiant creadigol. Mae cyn-fyfyrwyr yn dilyn gyrfaoedd amrywiol yn y diwydiant creadigol.
Er mwyn dysgu mwy am Academi Jukebox cliciwch yma