Roedd #DancePassion yn ddathliad ledled y DU o’r sȋn ddawns lewyrchus, mewn cydweithrediad â’r BBC ac One Dance UK, ac roedd yn cynnwys ymarferion unigryw a mewnwelediadau gan rai o brif ymarferwyr y wlad. Cafwyd perfformiad egnïol iawn wedi’i ysbrydoli gan Affro-ddawns gan fyfyrwyr Academi Jukebox, cyflwyniad gyda’n Cyfarwyddwr Artistig, Liara Barussi yn gyfrifol am y coreograffi.
Gwyliwch ein perfformiad llawn isod.
Roedd y diwrnod yn cynnwys dros 20 o ffrydiau byw ysbrydoledig o Abertawe, Birmingham, Leeds, Belfast a Llundain, ac yn arddangos ystod o arddulliau gan amrywiaeth o berfformwyr a chydweithfeydd, megis NDC Wales, Rambert, The National Youth Dance Company a mwy. Fel rhan o’r digwyddiad, archwiliwyd gwyddoniaeth dawns wrth i’r Birmingham Royal Ballet gynnal arbrawf byw i ddangos sut mae olrhain symudiadau 3D yn cael ei ddefnyddio i wthio ffiniau mewn coreograffi, yn ogystal ag i amddiffyn dawnswyr rhag anaf. Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi bod yn rhan o ddigwyddiad mor greadigol ac arloesol sydd ar flaen y gad ym myd dawns yn y DU.