Profiad theatr pwrpasol wedi’i greu ar gyfer ocsiwn gelf unigryw yn Aynhoe Park House.
Mae Farnon & Lake yn Arwerthwyr Pwrpasol sy’n arloesi ym maes digwyddiadau unigryw ac anarferol mewn perthynas â digwyddiadau ocsiwn celf. Comisiynwyd asiantaeth Jukebox Collective i gyfarwyddo, cynllunio a chynhyrchu darn symudiadau theatrig a ddaeth â drama i’w digwyddiad lansio ‘The Sculpture Auction’ a gyflwynodd dros 160 o weithiau cerfluniol.
Liara Barussi fu’n gyfrifol am gyfarwyddo’r darn gyda’r artistiaid symudiadau Jodelle Douglas a Maren Ellerman a buom yn cydweithio gyda’r dylunydd gwisgoedd Sabrina Henry er mwyn dod â’r theatreg i bob elfen o’r perfformiad.
Trochodd The Auction bob un o’r gwesteion ym myd celf a’r theatr, ac roedd hyn wedi’i dynnu mor bell o’r cysyniad traddodiadol o arwerthiant. ‘I ni, nid gwerthiant i’r cynigydd uchaf yn unig yw ocsiwn. Mae’n theatr, gwefr yr anhysbys. Credwn fod ocsiwn yn ddigwyddiad na ddylid ei golli.’ Farnon & Lake.
Tynnwyd pob llun gan Jakub Koziel a’u steilio gan Sabrina Henry.